Ffyrdd Teg i Ffyngau

Close-up of a waxcap fungi from the hygrocybe genus

Mae glaswelltir bioamrywiol iach ac amrywiol yn cynnal rhywogaethau gan gynnwys ffyngau capiau cwyr prin, sy’n brydferth yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o ecosystem lewyrchus Llun: © Vaughn Matthews

Ffyrdd Teg i Ffyngau

Lleoliad:
Welshpool Golf Club, Welshpool, SY21 9AQ
Ymunwch â ni ar daith gerdded hydrefol hyfryd i ddathlu byd rhyfeddol ffyngau!

Manylion y digwyddiad

Dyddiad

Time
2:00pm - 4:00pm
A static map of Ffyrdd Teg i Ffyngau

Ynglŷn â'r digwyddiad

Pa un a ydych yn fadarchwr pybyr (sef rhywun sy’n ymddiddori’n fawr mewn madarch) neu’n chwilfrydig ynglŷn â’r ffyngau a ddaw i’r fei dan draed, bydd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i archwilio teyrnas ryfeddol madarch mewn lle sy’n gyforiog o wahanol fathau.

Dan arweiniad Tammy a Fran o dîm Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, cewch ddysgu ar y daith gerdded dywysedig hon beth sy’n dwyn ffrwyth ar y ffyrdd teg yr hydref hwn.

Yn arbennig, byddwn yn cadw golwg am gapiau cwyr prin a mathau lliwgar eraill o ffyngau glaswelltir, yn ogystal â dysgu beth y mae eu presenoldeb yn ei ddweud wrthym.

Rhaid trefnu lle ymlaen llaw. Cewch ragor o fanylion ar ôl trefnu lle. Croesewir plant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Archebu

Pris / rhodd

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhan o’r prosiect Cymunedau Glaswelltir.

Gwybodaeth archebu ychwanegol

I gael rhagor o fanylion neu i neilltuo lle, anfonwch e-bost at Tammy

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion

Cysylltwch â ni

Tammy Stretton
Rhif Cyswllt: 01938 555654
Cysylltu e-bost: tammy@montwt.co.uk