Prosiect Afancod Cymru

Beaver copyright Nick Upton/Cornwall Wildlife Trust

Beaver - Nick Upton/Cornwall Wildlife Trust

Prosiect Afancod Cymru

Dod ag afancod yn ôl i Gymru!

Mae afancod yn llysysyddion
Gall cynefin afanc helpu i leihau’r risg o lifogyd
Gall cynefin tir gwlyb afanc helpu bywyd gwyllt
Mae afancod yn helpu pobl drwy wella ansawdd dŵr

Bydd afancod yn helpu adferiad natur yng Nghymru

Mae afancod yn adnabyddus am eu gallu rhyfeddol i reoli cynefinoedd tir gwlyb, gan anadlu bywyd newydd ynddynt er budd bywyd gwyllt a phobl.

Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr byd natur. Mae’n nhw’n creu newidiadau i’w cynefinoedd sy’n creu gwlybdiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.

Pam mae afancod yn bwysig?

Roedd afancod i’w gweld yn eang ledled Cymru ar un adeg, ond oherwydd eu bod wedi cael eu hela gan ddyn am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau sawr, fe’u gwelwyd yn diflannu ar ôl y Canol Oesoedd yng Nghymru ac, erbyn diwedd yr 16eg Ganrif, roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.  

Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn oherwydd maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ‘rhywogaeth gonglfaen’ am fod eu gweithgareddau’n gallu bod o fudd i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd.

Show your support for the Welsh Beaver Project

Cors Dyfi beavers

A family of three Eurasian beavers have been released int an enclosure at our Cors Dyfi Nature Reserve, where they will assist with habitat management on the reserve.

Thank you to everyone who responded to the NRW consultation for the Cors Dyfi beaver enclosure; we are very grateful for all of your support. We are really pleased to have been granted a licence for the release.

Show your support for the Cors Dyfi beaver family