Llwybr Sain Glaslyn a Bugeilyn

Walkers enjoying Pumlumon copyright Montgomeryshire Wildlife Trust

Walkers enjoying Pumlumon © MWT

Llwybr Sain Glaslyn a Bugeilyn

Daith ddifyr ac addysgiadol o dirwedd wych ym mynyddoedd gogleddol Cambria, sy'n cynnwys man gwylio godidog Foel Fadian a dau lyn gwahanol iawn, sef Glaslyn a Bugeilyn.

Yn dilyn mae'r llwybr sain gellir dysgu am hanes naturiol a hanes dynol yr ardal, yn ogystal â hanes Prosiect Pumlumon a'r hyn mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn ei wneud ar hyn o bryd i newid arferion rheoli tir. Bydd y newidiadau hyn yn fuddiol i fywyd gwyllt yr ardal, ac yn cynyddu bioamrywiaeth, a thrwy hynny'n gwneud yr ardal yn fwy deniadol i bawb.

I fanteisio ar y daith cymaint â phosib, dylid lawrlwytho'r mae deg ffeil sain cyn cychwyn ar y daith. Hefyd gellir lawrlwytho map o'r llwybrau a chael cyfarwyddiadau manwl i'w hargraffu. Dylid hefyd darllen a dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch sydd isod cyn cychwyn ar eich taith.

A walker enjoying a day out on Pumlumon copyright Montgomeryshire Wildlife Trust

A walker enjoying a day out on Pumlumon © Montgomeryshire Wildlife Trust

Taith manylion

 

Hyd: 6.5 milltir/10.5 km; dylid caniatáu tair i bedair awr, heb gynnwys amser i orffwys.

Graddfa: Cymedrol: tua 825 troedfedd/275m o ddringo, rhywfaint dros dir mynydd agored heb ei farcio; erbyn hyn mae arwyddbyst (melyn) ar yr adran hon. Mae'r gweddill ar draciau neu lwybrau amlwg, gan gynnwys rhan o Lwybr Glyndŵr.

Flowering heather at Glaslyn Nature Reserve copyright Montgomeryshire Wildlife Trust/Tammy Stretton

Flowering heather at Glaslyn Nature Reserve © MWT/Tammy Stretton

Pryd i fynd

 

Gellir cerdded y llwybr sain ar unrhyw adeg, ond yr amser gorau i'w gerdded yw mewn tywydd braf yn y Gwanwyn, Haf neu'r Hydref. Byddem yn argymell i chi edrych ar ragolygon y tywydd, yn enwedig os ydych yn ystyried mynd yn ystod y gaeaf. Mae Llwyfandir Pumlumon yn uchel, ac yn agored iawn, a gall y tywydd newid yn sydyn iawn. Nid yw'n bosib gweld yn bell iawn os oes cymylau isel neu niwl (felly hefyd y golygfeydd!) a pheth digon hawdd fyddai mynd ar goll oni bai eich bod yn gallu defynddio map a chwmpawd. Bydd angen cofio hefyd am oerfel gwynt a churlaw.

Pumlumon walkers at the Wynford Thomas Memorial copyright Montgomeryshire Wildlife Trust

Pumlumon walkers at the Wynford Thomas Memorial © MWT

Sut i gyrraedd y man cychwyn

 

Mae'r llwybr sain yn ddechrau yn y Cofeb Wynford Vaughan-Thomas am SN836959.

O Fachynlleth: dilynwch y Ffordd Fynydd tua Penfforddlas a Llanidloes. Dilynwch y ffordd yma am ryw 8 milltir, gan ddringo'n serth ar y darn olaf. Fe welwch y gofeb ar y dde, ychydig ar ôl croesi grid gwartheg.

O Lanidloes: dilynwch y B4518 i gyfeiriad Penfforddlas a Llanbrynmair. Rhyw filltir a hanner ar ôl Penfforddlas, mae troad i'r chwith tua Dylife a Machynlleth. Hon yw'r Ffordd Fynydd. Dilynwch y ffordd hon am ryw 5 milltir nes gwelwch y gofeb ar eich chwith ar ôl mynd lawr y rhiw serth cyntaf.

Mae rhai lleoedd parcio ar ymyl y ffordd, felly cymerwch ofal wrth barcio os gwelwch yn dda.

There is limited roadside parking, so please park carefully.

Iechyd a Diogelwch ar y Mynyddoedd

Cofiwch fod crwydro Mynyddoedd y Cambria, ac ardal Pumlumon yn enwedig, yn gallu bod yn  beryglus  os nad ydych wedi paratoi. Mae angen sgiliau a’r offer priodol arnoch chi. Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl ar lwybrau, ac mae rhai llwybrau ag arwyddbyst. Er gwaethaf hyn, hawdd iawn ydy mynd ar goll yn y niwl neu mewn pan fydd y cymylau’n  isel. Mae’r tywydd yn medru newid yn sydyn iawn yn y mynyddoedd. Dylech chi fynd â dillad ac offer addas i dywydd gwlyb a gwisgo esgidiau cerdded. Gall llwybrau fynd dros diroedd corsiog.

Rydym yn darparu cyfarwyddiadau cerdded a mapiau ichi eu defnyddio ar y cyd â mapiau Arolwg Ordnans graddfa fawr. Rydym yn eich cynghori i fynd â chwmpawd gyda chi a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i’w ddefnyddio. Gall System Leoli Fyd-eang (GPS) fod yn ddefnyddiol, ond eto i’w defnyddio ar y cyd â’ch map a’ch cwmpawd. Mae signal ffonau symudol yn annibynadwy iawn dros y rhan helaeth o ardal y llwybrau sain.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â dŵr a bwyd gyda chi, gan nad oes cyfle i siopa  ar y mynydd! Am ragor o wybodaeth ar offer priodol ar gyfer cerdded yn y mynyddoedd, ewch i wefan Achub Mynydd Cymru a Lloegr.

Gallwch chi ffrydio'r ffeiliau sain isod. I'w lwytho i lawr, cliciwch ar y bar perthnasol a dewiswch 'Save audio as .. "

01 Cofeb Wynford Vaughan Thomas

02 Pwynt Trig Foel Fadian

03 Owain Glyndŵr

04 Gwarchodfa Natur Glaslyn

05 Llyn yn Glaslyn

06 Ffenestr i'r gorffennol

07 Y Ceunant

08 Y bwystfilod sy’n ffurfio'r tirwedd

09 Fferm Bugeilyn

10 Cau Ffosydd

Rural Development Plan funding logo strip

Cafodd y prosiect hwn gyllid trwy Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig