An award-winning Nature for Wellbeing project delivered by Montgomeryshire Wildlife Trust between June 2021 and June 2025, this initiative was delivered in partnership with Powys Teaching Health Board and Cardiff Metropolitan University, with funding from the National Lottery Community Fund and the Welsh Government. Please note that this programme has now ended.
Beth yw Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt?
Mae Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt yn brosiect arloesol ac arobryn sy’n rhoi hwb i les meddyliol a chorfforol pobl trwy eu hailgysylltu â byd natur.
Mae’r rhaglen ecotherapi gyffrous hon, sy’n bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a chwrdd ag unigolion eraill o’r un anian trwy weithgareddau awyr agored sy'n seiliedig ar natur, megis teithiau cerdded natur, gwaith cadwraeth ymarferol, byw yn y gwyllt a thyfu cynnyrch.
Yn fwy na hynny, mae'r prosiect yn grymuso pobl i wneud newidiadau ystyrlon i natur a'r amgylchedd yn eu cymuned leol. Mor llwyddiannus yw hi, derbyniodd Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt Wobr Coedwig 2021 y GIG am Ymgysylltu Pobl â Natur – gwobr y mae galw mawr amdani.
Photographer: Ross Gallier
Beth yw Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt
Ynglŷn â'n sesiynau
Mae'r rhaglen 12 wythnos yn cynnwys sesiynau ymarferol a gyflwynir gan dîm cyfeillgar sydd wedi'u hyfforddi'n llawn. Cynhelir y sesiynau hyn ar draws Powys mewn safleoedd dyrchafol sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys nifer o warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau i apelio at bawb.
Ar gyfer pwy mae e?
Mae Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc ac oedolion yn byw ym Mhowys sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, boed hynny’n iselder, pryder, ynysu cymdeithasol neu hunan-barch isel. Mae’r sesiynau cynhwysol, rhad ac am ddim, yn ddelfrydol ar gyfer y rhai na fyddent fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a/neu ymyriadau therapiwtig rhagnodedig, ac maent yn galluogi unigolion i fynd ar eu cyflymder eu hunain.
Mae cyfranogiad yn digwydd ar hyn o bryd trwy atgyfeiriad gan ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, fel meddygon teulu, nyrsys, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau ymyrraeth i oedolion a phobl ifanc.
“Mae wedi bod o gymorth mawr gyda fy iechyd meddwl a phryder cymdeithasol...”Cymdeithasfa Ponthafren
Sut mae'n gweithio?
Cyhoeddodd yr Ymddiriedolaethau Natur adroddiad gyda Phrifysgol Essex yn 2017 am effeithiau gwirfoddoli ym myd natur ar iechyd meddwl pobl. Roedd y canlyniadau’n anhygoel, gyda 95% o gyfranogwyr â llesiant isel ar y dechrau yn adrodd gwelliant mewn 6 wythnos, a gynyddodd hyd yn oed yn fwy dros y 6 wythnos nesaf.
Dyfeisiwyd Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt gan Bennaeth Iechyd a Lles YNM, Carla Kenyon. Cafodd ei hysbrydoli gan brosiect arloesol Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerhirfryn, ‘Myplace’, a ddefnyddiodd y berthynas hon rhwng bywyd gwyllt a llesiant i lunio Pum Ffordd at Les: Cysylltu, Bod yn Weithgar, Cymryd Sylw, Dysgu a Rhoi. Mae'r egwyddorion craidd hyn wrth galon rhaglen Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt.
Pa fath o weithgareddau allwch chi eu disgwyl?
Gall cyfranogwyr Sgiliau Gwyllt Mannau Gwyllt ddisgwyl amrywiaeth o wahanol fathau o weithgareddau awyr agored, yn gysylltiedig â’r Pum Ffordd at Les:
Teithiau cerdded natur
Mae cerdded yn ffordd wych o gadw’n ffit yn gorfforol a rhoi hwb i’ch lles meddyliol. Mae’n rhoi’r cyfle i dreulio amser ym myd natur, i fyfyrio, i gysylltu â’r byd gwyllt o’n cwmpas ac i wneud ffrindiau newydd. Gallai ein teithiau cerdded gynnwys chwilio am blanhigion neu fywyd gwyllt, chwilota am gynhwysion i’w coginio ar y tân gwersyll neu ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (bod yn y foment).
Byw yn y gwyllt
Mae dysgu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar bethau newydd a rhannu profiadau i gyd yn ffyrdd gwych o wella eich lles. Gallai gweithgareddau byw yn y gwyllt gynnwys gwaith coed gwyrdd, coginio cynnyrch sydd newydd ei gasglu dros dân gwersyll a gwneud cartrefi i fyd natur.
Prosiectau garddio
Gall garddio fod o fudd i fywyd gwyllt a chymunedau, yn ogystal â chynnig y cyfle i wneud darganfyddiadau a dadflino yn yr awyr agored. Gall gweithgareddau gynnwys plannu hadau, gofalu am ddarnau o lysiau a choginio cynnyrch sydd newydd ei gasglu dros dân gwersyll.
Cadwraeth ymarferol
Gan alluogi pobl i gadw’n heini, dysgu sgiliau defnyddiol a gwneud newidiadau ystyrlon i fannau gwyllt a bywyd gwyllt, mae cadwraeth ymarferol yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae o fudd i’r gymuned ehangach. Gallai gweithgareddau gynnwys clirio prysgwydd, cynnal a chadw llwybr pren a chreu gwrychoedd o ganghennau marw.
Amgylcheddau ystyriol
Gall cymryd amser i ddianc rhag straen bywyd modern a thechnoleg a bod yn y foment wneud rhyfeddodau i les meddyliol. Gallai gweithgareddau gynnwys rhywfaint o fraslunio ystyriol y tu allan, neu dim ond stopio am ychydig i sylwi ar ein hamgylchedd.
|
Mae’r prosiect Sgiliau Gwyllt Lleoedd Gwyllt yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso buddion iechyd y rhaglen Sgiliau Gwyllt Lleoedd Gwyllt. Gallwch ddarllen mwy am sut mae’r prosiect wedi bod o fudd i gyfranogwyr drwy’r rhaglen dan y ‘Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.’ |