Perlau Gwerthfawr

close up of Pearl-bordered Fritillary

Glöyn byw Britheg Berlog yn agos © MWT/Tammy Stretton

Perlau Gwerthfawr

Mae’r ffilm fer hon, a gynhyrchwyd i Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn gan Greengage Films a llais gan Iolo Williams, yn egluro sut ydym yn helpu i warchod y glöyn byw’r Frith Berlog er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael eu mwynhau.

Mae glöyn byw’r Fritheg Berlog wedi profi dirywiad dramatig o ran statws ac ystod yng Nghymru yn ystod degawdau diweddar. Bellach maent yn gyfyngedig i lond llaw o safleoedd o fewn Cymru a’r cadarnle olaf sydd ar ôl yw Sir Drefaldwyn, lle y gwyddom fod poblogaethau bellach mewn wyth safle yno, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Llanymynech Rocks.

Beth yw’r PBF a pham ei fod yn brin?

Y Fritheg Berlog (PBF), Boloria euphrosyne, yw’r cynharaf o’r glöynnod byw bach i ymddangos yn y gwanwyn, gan amlaf yn hedfan yn wythnos gyntaf mis Mai. Gallant ymddangos yng nghanol mis Ebrill mewn tymhorau cynnar iawn, neu gael eu hoedi hyd at ganol fis Mai mewn tymhorau hwyr. Mae’r Fritheg Berlog yn anodd ei gwahaniaethu rhwng ei pherthynas agos, y Fritheg Berlog Fach (Boloria selene), sydd go brin yn hedfan cyn y drydedd wythnos ym mis Mai. Mae lindysyn y ddwy rywogaeth yn bwydo ar fioledau, gan amlaf y Fioled Gyffredin.

Yn Lloegr, roedd y PBF yn wreiddiol yn fritheg coetir ac i’w gweld yn eang, a gollwyd yn sydyn gyda diwedd rheolaeth coetir. Bellach, llechweddau tua’r de wedi’u gorchuddio â rhedyn yw’r prif gynefin yng Nghymru, ond mae’r rhain yn fregus yn sgil gorbori gan ddefaid neu ddiffyg pori.

Pâr o löynnod byw’r Frith Berlog © MWT/Tammy Stretton

Pâr o löynnod byw’r Frith Berlog © MWT/Tammy Stretton

Monitro'r PBF

Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wedi bod yn gweithio i gadw’r Fritheg Berlog yn y rhan hon o Gymru ers dros 20 mlynedd. Yn 2002, cytunwyd methodoleg sylfaenol gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a Chadwraeth Glöynnod Byw, i ymgymryd â monitro mewn dull penodol, gan alluogi i’r data gael ei gymharu ar draws y safleoedd a’r blynyddoedd. Cesglir data ar sail y nifer o PBF oedolion, yn ogystal â phresenoldeb neu absenoldeb dangosyddion cynefin penodol. 

Dengys y graff isod gyfanswm y nifer o oedolion PBF ar holl safleoedd Sir Drefaldwyn ers 2002.

A bar chart showing the total number of adult Pearl-bordered Fritillary butterflies recorded each year from 2002 to 2023

Total number of adult Pearl-bordered Fritillary butterflies (PBF) recorded each year from 2002 to 2023

Gweithred PBF

Gwirfoddolwyr yn ymgymryd â rheolaeth gynefin ar gyfer y glöyn byw’r Frith Berlog yng Ngwarchodfa Natur Creigiau Llanymynech © MWT

Gwirfoddolwyr yn ymgymryd â rheolaeth gynefin ar gyfer y glöyn byw’r Frith Berlog yng Ngwarchodfa Natur Creigiau Llanymynech © MWT

Y prif fygythiad i PBF yn y rhan hon o’r byd yw diffyg pori digonol a’r math o bori. Heb hyn, mae’r cynefin yn prysur ddod yn brysg a rhedynen ddwys, gan gysgogi popeth arall. Mae angen ychydig o redynen a phrysg ar y glöynnod byw i gynnal microhinsawdd cynnes, ond mae angen mynediad at blanhigion blodeuol arnynt hefyd ar gyfer neithdar a fioledau i’w lindys.

Gan weithio â thirfeddianwyr a phorwyr, rydym wedi ymgymryd â chliriad o brysg a rhedynen fawr, gyda’r nod o dorri ardaloedd gwahanol mewn blynyddoedd gwahanol, i hyrwyddo’r amodau sydd eu hangen ar y PBF. Y gwaith hwn sydd wedi newid ffawd y glöyn byw prin hwn yn y rhan hon o’r byd a hebddo, byddwn yn colli’r rhywogaeth yn gyfan gwbl cyn pen dim. I wirioneddol ddiogelu’r Frith Berlog, mae’r her ynglŷn â sut i gael y porthi yn gywir yn parhau, a dyma y bu’r Ymddiriedolaeth yn gweithio tuag ato ac yn parhau i wneud hynny.

The main threat to the PBF in this part of the world is lack of sufficient and type of grazing. Without this, the habitat can be quickly smoothered by dense scrub and bracken, shading out all else. The butterflies need some bracken and scrub to maintain a warm micro-climate, as well as providing litter for egg-laying, but they also need access to flowering plants for nectar and violets for their caterpillars.

Working with landowners and graziers, we have undertaken a large amount of scrub & bracken clearance, aiming to cut different areas in different years, to promote the conditions which the PBF needs. It is this work which has changed the fortune of this rare butterfly, in this part of the world and without it, we would soon lose the species entirely. To really safeguard the future of the Pearl-bordered Fritillary, the challenge remains on how to get the grazing right and it is this that the Trust has been and will continue to work towards.

A yw'n haf o hyd?

Ble ymgymerwyd â rheolaeth gyson, mae’r PBF yn gyffredinol wedi ymateb yn gadarnhaol. Fodd bynnag, dim ond hanner y darlun yw hyn. Gall PBF gael eu heffeithio’n ddifrifol hefyd gan y tywydd. Prin yw’r dyddiau tawel, cynnes, heulog yn y gwanwyn, gan effeithio ar allu’r glöynnod byw i fridio. Gall tywydd oer, gwlyb dros fisoedd yr haf hefyd gael effaith negyddol ar oroesiad y lindysyn, er gall eu dewis hwy o gynefin leddfu hyn i ryw raddau. Yn  y graff, gwelir nad yw’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn garedig a gyda chalon drom y cyhoeddwn golled un o’r trefedigaethau ynysedig; Allt Dolanog, a oedd ar un tro yn gartref i’r Frith Frown a oedd yn brinach fyth, ac sydd bellach wedi colli’r PBF hefyd.

Gyda mympwyon ein hinsawdd newidiol, mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn parhau â’r rheolaeth gyson ac yn chwilota am gyfleoedd i ehangu’r boblogaeth. Cyn belled ag y gallwn gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn parhau i frwydro dros y PBF. Rydym yn wirioneddol obeithio y bydd y 15 mlynedd nesaf yn fwy caredig i’r glöyn byw arbennig hwn.

Glöyn byw’r Frith Berlog © Tamasine Stretton

Glöyn byw’r Frith Berlog © Tamasine Stretton

Pearl-bordered Fritillary in Montgomeryshire 2019 Summary report

Tammy Stretton MWT

Am wybod mwy?

 

Cysylltwch Tammy Stretton, Swyddog Cadwraeth

ebost: tammy@montwt.co.uk