
Coed Pendugwm with carpets of bluebells in spring © Tamasine Stretton
Mae’n ddrwg gennym ddatgan bod maes parcio Coed Pendugwm ar gau ar hyn o bryd. Mae llaid trwchus y gall ceir fynd yn sownd ynddo ar y ffordd. Rydym yn gweithio i ddatrys y broblem, ond yn y cyfamser, mae’n bosibl i ymweld â’r warchodfa ar droed. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Know before you go
Pris mynediad
DimManylion parcio
Mae’r maes parcio ar gau ar hyn o bryd. Mae llaid trwchus yn y maes parcio sy’n gwneud hi’n debyg iawn y bydd ceir yn mynd yn sownd, Rydym wedi cau’r maes parcio nes inni ddatrys y broblem. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.Anifeiliaid pori
DimLlwybrau cerdded
Mae’r llwybr wedi’i nodi. Mae’n anwastad ac yn serth mewn mannau, a hefyd yn croesi’r nant dwywaith (pan fo’r nant yn llifeirio, mae’n bosibl na ellir mo’i groesi).
Mynediad
Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth am fanylion hygyrchedd.
Dogs
When to visit
Amseroedd agor
Mae’r warchodfa ar agor bob amser ond mae’r maes parcio ar gau ar hyn o bryd.Amser gorau i ymweld
mis Mawrth i fis MehefinAm dan y warchodfa
Mae coed derw digoes mawreddog wedi tyfu yn y gornel dawel hon o Gymru ers dros 400 o flynyddoedd gan ddarparu gorchudd deiliog ar gyfer planhigion ac anifeiliaid a chreu 'coedwig wyllt ' – y math o goetir a fu’n gorchuddio rhannau helaeth o'r wlad ar un adeg. Er ei bod yn ddim ond 3.2 o hectarau, mae'r warchodfa yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) Coed Pendugwm, sydd wedi'i dynodi oherwydd y coed, y planhigion a'r anifeiliaid arbennig sy'n byw yma, gan gynnwys y pathew.
Nid oes dim byd gwell na choetir llydanddail yn y gwanwyn, yn llawn blodau'r coetir lliwgar a sŵn yr adar yn canu yn llenwi'r awyr. Mae Coed Pendugwm yn lle gwych i wylio Gwybedogion Brith yn prysur fagu eu cywion uwchben carped o Glychau'r Gog.
Dilynwch y warchodfa ar y cyfryngau cymdeithasol #CoedPendugwm