Amdanom Ni

Glaslyn lake & blooming heather

Gwarchodfa Natur Glaslyn yn Awst

Am Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Yn gweithio dros fywyd gwyllt, safleoedd gwyllt a phobl Sir Drefaldwyn

Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wedi bod yn gwarchod bywyd gwyllt a safleoedd gwyllt, ac yn addysgu, galluogi a dylanwadu ar bobl am dros 30 mlynedd. Rydym yn gofalu am 18 o safleoedd bywyd gwyllt gorau Sir Drefaldwyn, ac yn cydweithio â pherchnogion tir mewn sawl safle arall. Helpu sicrhau dyfodol i gynefinoedd a rhywogaethau pwysig sydd mewn perygl o ddiflannu yw ein gwaith.

Adennill bioamrywiaeth a chysylltu pobl â’i hamgylchedd wrth fod yn eiriolwyr brwd ac effeithiol dros fywyd gwyllt.
Ein Cenhadaeth

Sut rydym yn gweithio

Mae rheolaeth ac arweiniad strategol y mudiad yn cael eu harolygu gan grŵp o ymddiriedolwyr etholedig. Aelodau o’r Ymddiriedolaeth yw’n Hymddiriedolwyr. Maen nhw’n rhoi eu profiad a’u harbenigedd am ddim.

Sut rydym yn cael ein cyllido

Elusen yw Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, sy’n golygu na allwn ni weithredu i warchod ein bywyd gwyllt heb gefnogaeth. Mae ein cefnogwyr hael yn cynnwys 2, 000 o aelodau, 300 o wirfoddolwyr, ymddiriedolaethau sy’n rhoi grantiau, awdurdodau lleol, cwmnïau a chyrff elusennol. 

Beth rydym yn ei wneud

Adolygiad Blynyddol

An outline of Montgomeryshire Wildlife Trust's work between April 2019 and March 2020.