Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
Pied flycatcher (Ficedula hypoleuca) adult male in woodland, Wales, UK - Mark Hamblin/2020VISION
Caru Sir Drefaldwyn? Wrth eich bodd gyda bywyd gwyllt? Cefnogwch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn!
Mae angen ein help ni ar fywyd gwyllt Sir Drefaldwyn. Mae aelodau’n hollbwysig i waith yr Ymddiriedolaeth. Wrth ymaelodi â ni, byddwch chi’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein gwaith cadwraeth bywyd gwyllt. Nid oes modd inni weithio heb eich cefnogaeth chi.

Rhesymau dros ymaelodi â ni:
Pecyn croeso sy’n cynnwys cylchgronau ag erthyglau diddorol a chanllawiau lliw llawn i’n gwarchodfeydd natur
Cyfleoedd gwirfoddoli i helpu gwarchod bywyd gwyllt
Mynediad i bob un o’n 18 o warchodfeydd natur
Digwyddiadau, sgyrsiau a theithiau bywyd gwyllt
Helpu sicrhau dyfodol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt yn eich ardal leol
Costau
Mae aelodaeth yn costio lleiafswm o £2.25 y mis. Cewch warchod bywyd gwyllt am bris paned!

Sut gallwch chi ymaelodi
Ymaelodwch ar-lein nawr wrth ddewis yr opsiwn gorau uchod ar eich cyfer chi. Ffoniwch ein swyddfa ar 01938 555654. Os hoffech dalu â siec neu drwy ddebyd uniongyrchol, mae croeso ichi argraffu’r ffurflen aelodaeth isod a’i phostio i:
Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
Tŷ Lôn Parc
Stryd Fawr
Y Trallwng
Powys
SY21 7JP
Ffurflen aelodaeth

Oes angen rhagor o gymorth arnoch?
Cysylltwch â Sandy Scott, ein Swyddog Aelodaeth, 9am i 5pm Dydd Llun i Ddydd Mercher neu e-bostiwch: sandy@montwt.co.uk