Roedd Cysylltiadau Gwyrdd Powys yn brosiect cydweithredol Ymddiriedolaethau Natur ledled Powys yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau bach, tirfeddianwyr a chynghorau lleol i gymryd camau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth a chreu rhwydwaith adfer natur ledled y sir.
Gyda'n gilydd fe wnaethom arolygu a mapio bywyd gwyllt, darparu cyngor ar reoli cynefinoedd ac atebion sy'n seiliedig ar natur, helpu pobl i annog mwy o fywyd gwyllt i'w cymunedau a chynnig cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio a gwirfoddoli.
Dechreuon ni'r prosiect ym mis Ebrill 2021 a pharhaodd tan fis Mawrth 2023, gan gynnwys Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a swyddfa Brycheiniog Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Derbyniodd y prosiect hwn gyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Green Connections Powys project video (https://youtu.be/h040CVCIAG4)
Prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys - Beth yw Cysylltiadau Gwyrdd?
Cynhyrchodd prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Powys becynnau cymorth, cyflwyno sgyrsiau ar-lein a chynhyrchu adnoddau defnyddiol eraill i'w defnyddio'n barhaus. Gellir gweld a lawrlwytho'r rhain, ynghyd ag adroddiadau'r prosiect, o wefan Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yma: rwtwales.org/our-projects/project-resources/project-resources-green-connections-powys