Camlesi, Cymunedau a Llesiant

Summery scene of bridge over the Montgomery Canal with reflection in the water and blossom on trees

Photo: Gary Williams Photography

Camlesi, Cymunedau a Llesiant

A banner of logos for organisations involved in the collaborative Canals, Communities and Wellbeing Project
Oherwydd bod bywyd yn well ger y dŵr..."

Un tro, byddai dyfrffyrdd o waith dyn, fel Camlas Maldwyn a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog,  a gafodd eu hadeiladu'n wreiddiol ar gyfer diwydiant, yn cludo deunyddiau adeiladu o gwmpas Cymru. Y dyddiau hyn, maen nhw'n gynefinoedd unigryw ar gyfer pob math o fywyd gwyllt ac yn chwarae rhan yr un mor hanfodol o ran lles y gymuned.

Nod prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant yw gwella'r amgylchedd ger dwy gamlas ym Mhowys, ac yn datblygu cysylltiadau rhyngddyn nhw a'r gymuned. Bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfoeth o fywyd gwyllt gwych sy'n byw ger Camlas Trefaldwyn, ac ar yr un pryd yn annog pobl leol i ddefnyddio'r adnoddau gwerthfawr hyn i hybu eu lles drwy ymgysylltu â'r byd gwyllt, hamdden a theithio llesol.

Trwy’r prosiect, sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, bydd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn  gwneud gwaith sylweddol ar hyd Camlas eiconig Maldwyn, er enghraifft gwella gwybodaeth i ymwelwyr ac ychwanegu cyfleusterau 'Chwarae Natur' newydd  i deuluoedd ger Llyn Coed y Ddinas gerllaw. Hefyd, byddwn yn lansio ap ffôn clyfar am ddim i helpu pobl i weld,  adnabod a chofnodi’r bywyd gwyllt maen nhw'n ei weld, ac yn rhedeg cyfres  o deithiau tywys i  arddangos rhai o'r trysorau cudd ar hyd ac o gwmpas y ddyfrffordd.

Summer scene of the Montgomery Canal with building in the background and boats on the water

Like the wider landscape, the Montgomery Canal changes with the seasons © Gary Williams Photography

Camlas Maldwyn

 

Mae Camlas Maldwyn yn rhedeg am 24 milltir o'r Drenewydd i Lanymynech yng Nghymru ac yn parhau dros y ffin i Loegr i Frankton Locks cyn iddi gwrdd â Chamlas Llangollen maes o law.

 

Er nad yw'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn (Glandŵr Cymru, Canal & River Trust in Wales sydd â’r fraint hon), mae gan y ddyfrffordd le arbennig yn ein calonnau ac rydym yn mynd ati i wneud gwaith cadwraeth sylweddol, gan gynnwys casglu sbwriel, ar hyd-ddi.

 

Yn ogystal â bod yn lle hardd, heb sôn am rywle sy’n cynnig ffordd wych o archwilio'r rhan hon o Sir Drefaldwyn, mae'r gamlas yn lân iawn ac yn hynod gyfoethog o ran bywyd gwyllt, diolch yn rhannol i'w ansawdd dŵr rhagorol. Mae gan yr adran sydd yng Nghymru statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dynodiad Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA), ac mae hefyd yn un o'r lleoedd gorau yn y byd ar gyfer y Llyriad Nofiadwy.

 

Yn fwy na hynny, y Monty yw canolbwynt llawer o'n gwarchodfeydd natur. Mae Creigiau Llanymynech, Llyn Coed y Dinas, Coedwig Dolforwyn, Tŷ Coch a Phwll Penarth oll wedi'u lleoli ychydig oddi ar y llwybr halio neu o fewn pellter cerdded hawdd, ac mae Tir Llanmerewig Glebe, Pwll Fferm Hafren  a Dolydd Hafren hefyd gerllaw ac o fewn coridor y gamlas.

Bywyd gwyllt y dyfrffordd

Mae cyfoeth o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y rhan honno o Gamlas Maldwyn sydd yng Nghymru, yn ei dyfroedd glân, yn y llystyfiant ar ei hymyl ac yn y llain ar hyd y llwybr hawlio. Mae'n llawn adar dŵr, fel Elyrch Mud a Ieir Bach yr Hesg, mae dyfrgwn yn ei defnyddio'n aml i fwydo, gwelwyd Llygod Dŵr sy’n gynyddol brin yma hefyd, ac yn yr haf mae'r awyr yn dod yn fyw gyda gwas y neidr a mursennod yn gwibio o le i le.

App logo overlaid on picture of the Montgomery Canal

Saffari’r Gamlas

 

Eisiau darganfod mwy am y bywyd gwyllt ar Gamlas Maldwyn? Beth am lawrlwytho ap ffôn clyfar AM DDIM Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, Canal Safari? Bydd yn eich helpu i weld, adnabod a hyd yn oed i gofnodi'r planhigion, adar, mamaliaid a rhywogaethau eraill a welir gan amlaf yma – mae'n ffordd wych, hwyliog o archwilio'r ddyfrffordd hon sy'n llawn natur. I'w lawrlwytho ar gyfer ffôn Android chwiliwch am 'Canal Safari' yn eich siop app neu ar gyfer iPhone cliciwch y botwm isod:

 

Lawrlwythwch yr app
People walking along the Montgomery Canal towpath with flowers in the foreground

Photo: Glandŵr Cymru/Canal & River Trust in Wales

Teithiau cerdded bywyd gwyllt tywysedig AM DDIM

Fel rhan o'r prosiect hwn, byddwn yn cynnal cyfres o  deithiau cerdded bywyd gwyllt tywysedig AM DDIM ar hyd Camlas Maldwyn dan arweiniad y cadwraethwr lleol brwd a'r tywysydd profiadol, Andy Davies. Bydd y teithiau’n addas ar gyfer pob oed a gallu, a bydd y cerdded hamddenol yn ffordd berffaith o ddarganfod mwy am yr hyn sy'n gwneud y ddyfrffordd hon mor arbennig ar gyfer bywyd gwyllt, o ddarganfod rhai ffeithiau diddorol am adar, mamaliaid ac amffibiaid penodol sy'n ei ddefnyddio, a dim ond o ymgysylltu â natur ar daith gerdded fendigedig mewn ardal brydferth.

Dydd Sadwrn 30 Ebrill 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Lociau Belan, ger y Trallwng. 10am-1pm.

Dydd Sul 29 Mai 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Aber-miwl. 10am-1pm.

Gwener 3 Mehefin 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn dechrau o Ardal Treftadaeth Llanymynech. 10am-1pm.

Dydd Mercher 20 Gorffennaf 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn dechrau o Ardal Treftadaeth Llanymynech. 10am-1pm.

Dydd Mercher 10 Awst 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Aber-miwl. 10am-1pm.

Gwener 2 Medi 2022

Taith bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Lociau Belan ger y Trallwng. 10am-1pm.

DYDDIADD NEWYDD!! Dydd Sadwrn 29ain Ebrill 2023

Taith gerdded bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Lociau Belan ger Y Trallwng. 10am-1pm.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru

DYDDIADD NEWYDD!! Dydd Sul 14fed Mai

Taith gerdded bywyd gwyllt dywysedig ar hyd Camlas Maldwyn yn cychwyn o Aber-miwl. 10am-1pm.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru

Aerial shot of a bridge over the Montgomery Canal in summer

© Flying Film Lab

Golwg o’r awyr...

 

Os hoffech chi weld Camlas Maldwyn yng Nghymru fel na welsoch chi erioed o’r blaen, gwyliwch ein ffilm anhygoel, sy'n cynnwys lluniau o'r awyr wedi’u cipio gan drôn.

 

Gwylio’r ffilm!

 

 

A nature play area with log stools and rainbow room

‘Chwarae Natur’ ar Warchodfa Natur Llyn Coed y Dinas

Fel rhan o’r prosiect, rydym wedi creu ardal ‘Chwarae Natur’ newydd yng Ngwarchodfa Natur Llyn Coed y Dinas yn Y Trallwng. Mae’r ardal chwarae awyr agored yn cynnwys deunyddiau naturiol – gan gynnwys coed o warchodfa natur YNM gerllaw, yng Nghoed Dolforwyn, lle mae gwaith adfer yn digwydd ar y coetir hynafol – ac offer a wnaethpwyd o bren i gydfynd â’r amgylchfyd gwyllt, sydd ar yr un pryd, yn hwyluso ymgysylltu â natur a’r awyr agored. Gyda meinciau pren, cylch o stolion pren gwledig, ‘ystafell synhwyraidd ar thema’r enfys’ a chegin fwd, mae’r ardal awyr agored yn cynnig lle perffaith i blant a’u teuluoedd fwynhau chwarae dychmygus a chyffrous yn erbyn cefnlen ysbrydoledig y warchodfa natur. Yma gall meddyliau’r plant chwilota, creu a darganfod, wrth chwilio am chwilod, gwylio adar, casglu dail a gwylio bywyd gwyllt – heb sôn am fwynhau’r mwd, bod yn flêr a chael hwyl! Bydd y lle neilltuol hwn ar agor i’r cyhoedd sy’n ymweld â Llyn Coed y Dinas, a chynhelir digwyddiadau sy’n addas i’r teulu cyfan, ymweliadau addysgol ar gyfer ysgolion lleol, a sesiynau estyn allan ar gyfer pobl ifanc a gyflwynir gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yma hefyd.

Ynglŷn â'r prosiect

 

Mae prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant dan arweiniad Tîm Mynediad a Hamdden Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys yn brosiect partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Glandŵr Cymru/ Canal and River Trust in Wales, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r Cyngor, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau ar hyd dau goridor camlas ym Mhowys. Derbynioddd y prosiect hwn, sy’n rhedeg tan fis 31 Mai 2023, gyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Gan weithio o fewn coridor o 5km ar hyd bob ochr i gamlesi Maldwyn a Sir Fynwy a Brycheiniog, mae'r pwyslais ar gynyddu cyfleoedd hamdden, mynediad i'r cyhoedd a theithio llesol gwledig, gan gefnogi gwell llesiant o'r mannau gwyrdd a glas hyn, lle mae bywyd yn well ger y dŵr. Bydd y prosiect yn cynnwys gwelliannau i'r seilwaith, gwelliannau i fioamrywiaeth, arwyddion gwybodaeth newydd i ymwelwyr, teithiau tywys a marchnata.

Darllenwch Ddatganiad Preifatrwydd prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant (Cymraeg)