
Cywion Gweilch y Dyfi yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi © YNM

Gwarchodfa Natur Cors Dyfi yn yr hydref © YNM
Know before you go
Pris mynediad
Mae Cors Dyfi ar gau ar hyn o brydManylion parcio
Mae Cors Dyfi ar gau ar hyn o brydAnifeiliaid pori
Ychen y Dŵr mewn ardaloedd tu ôl i ffensLlwybrau cerdded
Profwch y warchodfa ar hyd rhwydwaith o lwybrau pren
Mynediad
Mae’r safle, ac eithrio’r guddfan, yn hollol hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Dogs
Facilities
When to visit
Amseroedd agor
Amseroedd agor – Mae Cors Dyfi bellach ar gau wrth inni adeiladu ein Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi newydd. Ni fydd mynediad i’r warchodfa yn ystod y cyfnod adeiladu, ond rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu i’n canolfan newydd yn 2020.Amser gorau i ymweld
Mis Ebrill i fis MediAm dan y warchodfa
Mae Cors Dyfi bellach ar gau wrth inni adeiladu ein Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi newydd. Ni fydd mynediad i’r warchodfa yn ystod y cyfnod adeiladu, ond rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu i’n canolfan newydd yn 2020. Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Bywyd Gwyllt Dyfi, cliciwch yma.
Gwarchodfa natur fendigedig yw Cors Dyfi, ac un sy’n ferw o fywyd gwyllt. Mae’r safle wedi newid yn sylweddol dros y canrifoedd diwethaf: mae wedi bod yn forfa heli morydol, tir pori, planhigfa goniffer ac yna, yn fwyaf diweddar, gwarchodfa o wlyptir sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’r warchodfa’n cynnwys cymysgedd o gors, gwern, coetir gwlyb a phrysg, sy’n cynnal nifer fawr o anifeiliaid a phlanhigion. Mae’n gartref hefyd i’r Gweilch gogoneddus, a ddechreuodd bridio ar y warchodfa am y tro cyntaf yn 2011. Efallai y caiff y rhai lwcus ohonoch gip ar Ddyfrgi neu Bathew yn ogystal.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Weilch y Dyfi a’r warchodfa natur sy’n gartref iddynt, cliciwch yma
Fel arfer, bydd y Gweilch ar y warchodfa o fis Ebrill i fis Medi. Y gwanwyn a’r haf hefyd yw’r adeg gorau i weld Madfallod, Troellwyr Mawr, Ceiliogod Rhedyn, Telorion Hesg a Thelorion Cyrs, Gellesg a Phicellwyr Pedwar Nod. Bydd Ychen y Dŵr yr Ymddiriedolaeth yn pori ar y warchodfa yn yr haf. Daw’r gaeaf â heidiau o adar bach i’r porthwyr, yn ogystal â Gwyddau Gwyran a Bodaod Tinwyn i’r warchodfa yn ehangach. Yn ystod y gaeaf hefyd, mae’n bosibl y cewch gip ar Adar y Bwn anodd eu gweld yn y cyrs. Rydym yn gweld Dyfrgwn a Barcudiaid Cochion yn gyson trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yng Nghors Dyfi yn cynnwys Arsyllfa 360 Dyfi, dwy guddfan, Canolfan Ymwelwyr gyda siop fach, lluniaeth ysgafn a thoiledau hygyrch. Mae gennym gyfleusterau addysgiadol ac rydym yn croesawu archebion grŵp. Mae croeso i gŵn yn y maes parcio a’r Canolfan Ymwelwyr ond ni chaniateir cŵn, ac eithrio cŵn cymorth, ar y warchodfa. Darperir powlenni dŵr.
Dilynwch y warchodfa hon ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CorsDyfi