Britheg Berlog Fach

Small Pearl-bordered Fritillary butterfly

©Bob Coyle

Britheg Berlog Fach

Enw gwyddonol: Boloria selene
Mae'r Britheg Berlog Fach yn löyn byw oren a brown hardd sydd i'w gweld mewn glaswelltir tamp, rhostir a choetir agored. Mae wedi ei enwi ar ôl y rhes o 'berlau' ar waelod yr adenydd.

Species information

Ystadegau

Lled adenydd: 3.5-4.4cm

Statws cadwraethol

Rhywogaeth â blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Mai i Awst

Ynghylch

Mae'r Britheg Berlog Fach yn gyffredin iawn, yn enwedig yng Nghymru a'r Alban, ond wedi profi lleihad sylweddol yn y niferoedd. Mae i'w gweld mewn cynefinoedd tamp a gwelltog, yn ogystal â llennyrch coetiroedd a rhostiroedd. Mae'r oedolion yn hedfan yn isel at y llawr gan ddefnyddio patrwm curo adenydd ac ehediad, wrth stopio i gael neithdar o flodau ysgall a mieri. Mae'r lindysyn yn bwydo ar fioledau, gan amlaf y fioled gyffredin a fioled y gors.

Sut i'w hadnabod

Mae'r Britheg Berlog Fach yn löyn byw oren gyda marciau du ar ei hadenydd. Mae marciau du ac arian ar waelod ei hadenydd, ynghyd â rhes o 'berlau' ar hyd ymyl yr adenydd. Mae'n debyg iawn i'r Britheg Berlog Fach o ran maint ac ymddangosiad. Maent fwyaf hawdd eu hadnabod o waelod eu hadenydd - mae gan bob un rhes o saith perl, ond mae'r Britheg Berlog Fach yn arddangos dau berl ychwanegol amlwg, tra bod gan y Britheg Berlog Fach mosaig lliwgar o farciau gwyn, oren a brown.

Dosbarthiad

I'w gweld yn bennaf yn ardaloedd gorllewinol y DU, ac yn gyffredin iawn yng Nghymru, yr Alban a de orllewin Lloegr.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r Britheg Berlog Fach i'w gweld gyntaf yn ne orllewin Lloegr ym mis Mai. Wrth i'r tymor fynd ymlaen, mae i weld yn fwy gogleddol. Nid yw'n cael ei weld yn yr Alban nes mis Mehefin. Oherwydd ei fod allan mor gynnar yn y de, fe all olygu eu bod yn ymddangos am eildro yn ystod y tymor.

Sut y gall bobl helpu

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio'n agos gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i sicrhau bod bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu ac i hyrwyddo arferion sy'n ystyrlon o fyd natur. Drwy gydweithio, gallwn greu Tirweddau Byw: rhwydweithiau o gynefinoedd yn ymestyn drwy'r wlad sy'n galluogi i fywyd gwyllt symud yn rhydd ac i bobl fwynhau buddion natur. Cefnogwch y weledigaeth wyrddach hon ar gyfer y dyfodol drwy ymuno â'ch Ymddiriedolaeth Byd Natur leol.