Gofalwyr y Gwyllt

Youth for nature John Muir Award

Gofalwyr y Gwyllt

Grymuso plant a phobl ifanc i ofalu am fyd natur ar stepen eu drws

Mae Gofalwyr y Gwyllt  yn rhaglen lles ac amgylcheddol awyr agored newydd ar gyfer plant a phobl ifanc 9-25 oed. 
Dros 12 mis, bydd cyfranogwyr yn archwilio gwarchodfeydd natur lleol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ymarferol, a gweithio tuag at wobr John Muir sy’n cael ei chydnabod yn gan MWT a’i dyfarnu gan Ymddiriedolaeth John Muir.

 

Ariannir Gofalwyr y Gwyllt gan Gronfa Fforwm Gwerth Cymdeithasol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys a Llywodraeth Cymru.

Wild Guardians Funder logos

Beth yw Gwobr Gofalwyr y Gwyllt ? 

Gwobr Gofalwyr y Gwyllt yw lefel gyflwyniadol Gwobr John Muir, gyda’r bwriad o annog pobl o bob oed i archwilio a gofalu am lefydd gwyllt.

Mae cyfranogwyr yn cwblhau’r wobr drwy ymgysylltu gyda phedair her allweddol:

  • Darganfod llefydd gwyllt a dysgu am eu nodweddion naturiol
  • Archwilio byd natur ac myfyrio ar eu profiadau yn yr awyr agored
  • Gwarchod yr amgylchedd drwy gamau gweithredu ymarferol
  • Rhannu eu profiadau gydag eraill

Drwy gwblhau oddeutu 25 awr o weithgareddau dysgu a chadwraeth yn yr awyr agored, bydd cyfranogwyr yn ennill tystysgrif sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac sy’n dathlu eu hymrwymiad i fyd natur

 

Gyda phwy ydym ni’n gweithio? 

Bydd y rhaglen yn gweithio gydag ysgolion, colegau, gwasanaethau ieuenctid, mudiadau cymunedol, partneriaid atgyfeirio lleol a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr sydd â diddordeb er mwyn cyrraedd pobl ifanc ar draws Sir Drefaldwyn. Yn arbennig felly rhai a allai fod yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at fyd natur. Drwy ddarparu trafnidiaeth o ysgolion, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol, mae’r prosiect yn ei gwneud hi’n haws i bobl ifanc ac oedolion ifanc gysylltu gyda byd natur o lefydd lle maent eisoes yn teimlo’n gyfforddus ynddynt.

Drwy sesiynau awyr agored rheolaidd mewn llefydd gwyllt lleol, bydd Wild Guardians yn helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder, ymwybyddiaeth amgylcheddol, a chyswllt dyfnach gyda’r byd naturiol.

Beth fydd cyfranogwyr yn ei wneud?

Bydd pob sesiwn 2.5 - 3 awr fydd yn cael eu darparu dros gyfnod o sawl wythnos yn cefnogi cyfranogwyr i gwblhau pedair elfen y dyfarniad:

Darganfod

Dysgu am bwysigrwydd bywyd gwyllt, a chynefinoedd lleol, a phwysigrwydd gwarchod natur wrth archwilio tirweddau hardd ac amrywiol.

Archwilio

Profwch yr awyr agored drwy deithiau tywys, arsylwi ar fyd natur, a gweithgareddau adfyfyriol sy’n helpu i feithrin cysylltiad personol gyda llefydd gwyllt.

Cadw

Cymryd camau ymarferol i helpu bywyd gwyllt a chynefinoedd. Gall gweithgareddau gynnwys adfer cynefinoedd, plannu, arolygon bywyd gwyllt, neu ofalu am warchodfeydd natur.

Rhannu

Dathlu a chyfathrebu profiadau drwy weithgareddau creadigol, adrodd straeon, blogiau, astudiaethau achos, allbynnau cyfryngau cymdeithasol neu ddigwyddiad cymunedol sy’n tynnu sylw at yr hyn mae cyfranogwyr wedi’i ddysgu.

Ymhle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal? 

Bydd sesiynau’n cael eu cynnal ar draws ystod o warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, a gofodau gwyrdd partner megis:

Byddwn hefyd yn defnyddio mannau gwyrdd lleol, fel y gall cyfranogwyr ddarganfod byd natur hyd yn oed yn agosach at adref. Mae’r amgylcheddau hyn sy’n gyfoethog o ran byd natur yn cynnig cyfleoedd i archwilio, dysgu a meithrin cysylltiadau arhosol gyda thirweddau a bywyd gwyllt Sir Drefaldwyn.

Allbynnau’r Prosiect

Gan ein bod am i bawb gael mynediad at fyd natur - yn arbennig y rhai hynny sy’n wynebu rhwystrau at brofiadau yn yr awyr agored - drwy’r prosiect hwn ein nod fydd darparu:

Teithio ar gyfer llesiant

Darperir trafnidiaeth o ysgolion, canolfannau ieuenctid, a phwyntiau codi cymunedol, gan helpu pobl ifanc i gael mynediad hawdd at warchodfeydd natur o lefydd cyfarwydd.

Gan weithio gydag ysgolion a gwasanaethau ieuenctid, rydym yn defnyddio llwybrau atgyfeirio syml er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn hygyrch ac wedi’i chydlynu’n dda ar draws sefydliadau partner.

Bydd sesiynau yn cael eu cynnal ar draws Y Trallwng, Y Drenewydd, Llanfyllin a Threfaldwyn, gyda lleoliadau’n newid drwy gydol y flwyddyn.

Cefnogi lles ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd

Mae Wild Guardians yn helpu i wella lles drwy roi amser rheolaidd yn yr awyr agored i blant a phobl ifanc, a hynny mewn gofodau diogel, cefnogol.

Drwy sesiynau ar ôl ysgol a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol, bydd y rhaglen:

  • Yn cefnogi iechyd meddwl a chorfforol plant
  • Adeiladu hyder, gwytnwch a chyfeillgarwch
  • Darparu profiadau cadarnhaol yn yr awyr agored i rai na fyddai fel arfer yn cael mynediad at fyd natur
  • Helpu i ysgafnhau pwysau gofal plant drwy gynnig gweithgareddau strwythuredig ar adegau allweddol

Bydd yr holl sesiynau yn cael eu darparu gan addysgwyr amgylcheddol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Mae eu harbenigedd yn sicrhau bod sesiynau’n ddiogel, yn gynhwysol, yn apelgar ac yn briodol ar gyfer yr oedran, gan helpu cyfranogwyr i fagu hyder, hunan-werth a chydnerthedd.

Grymuso lleisiau Ifanc dros natur

Bydd Caffi Eco fydd yn cael ei arwain gan bobl ifanc yn cael ei ddatblygu, gan roi cyfle i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r wobr gael rhywle lle gallant barhau gyda’u taith.

Bydd y lle hwn yn galluogi pobl ifanc i:

  • Gadw mewn cysylltiad â chyfoedion
  • Rhannu syniadau a phrofiadau
  • Eirioli dros fyd natur a llesiant
  • Helpu i lunio gweithgareddau a mentrau amgylcheddol yn y dyfodol
  • Cael mynediad at gylchlythyr misol 

Drwy rymuso lleisiau ifanc, mae’r rhaglen yn annog pobl ifanc i ddod yn hyrwyddwyr byd natur yn eu cymunedau eu hunain. 

 

 

Hoffech chi fod yn rhan o hyn?

Os ydych chi’n ysgol, grŵp ieuenctid, rhiant neu fudiad cymunedol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn i ddysgu mwy am sesiynau sydd ar y gweill ac opsiynau o ran atgyfeirio. 

DS: Er mwyn sicrhau trafnidiaeth a phrofiad grŵp cefnogol, mae llefydd wedi’u cyfyngu i 7 cyfranogwr ar gyfer pob grŵp. Os hoffech chi gymryd rhan mewn rhaglen Gofalwyr y Gwyllt yn lleol i chi, cofiwch gofrestru i fynegi eich diddordeb yn gynnar gan fod disgwyl i’r llefydd lenwi’n gyflym. 

Cysylltwch gyda’r Swyddog Ymgysylltu Pobl a Bywyd Gwyllt, 

Frances Louise, dros e-bost: Frances@montwt.co.uk

John Muir  Provider Logo