Bydd y prosiect Pori ar y Creigiau yn gweld Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Clwb Golff Llanymynech, Helen Upson o’r fenter pori cadwriaethol Pori Bach, ac arbenigwr lleol ar loÿnnod byw, Dr Simon Spencer, yn gweithio gyda’i gilydd i adfer glaswelltiroedd sy’n llawn bywyd gwyllt prin ar Greigiau Llanymynech i’w ogoniant blaenorol.
Yn un o blith llond dwrn o gerrig brig calchfaen ar draws ffin ddwyreiniol Cymru, mae Creigiau Llanymynech yn noddfa ar gyfer y planhigion ac anifeiliaid prin sy’n gysylltiedig gyda’i daeareg a phridd unigryw.
Mae’r bryn sy’n gartref i Warchodfa Natur Creigiau Llanymynech (sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Amwythig) a Chlwb Golff Llanymynech - y ddau wedi’u lleoli’r naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr - wedi’i ddiogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei werth arwyddocaol i fywyd gwyllt, o loÿnnod byw a thegeirianau prin, i wenyn, ystlumod ac ymlusgiaid.
Fodd bynnag, mae’r lle pwysig hwn angen ei adfer ar frys.
Wedi’i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a’i ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru, bydd y prosiect cydweithredol dwy flynedd, Pori ar y Creigiau, yn gweld gwaith ymarferol ac ymgysylltu cymunedol ar dir y clwb golff yng Nghymru ac ar warchodfa natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn gerllaw. Fel rhan o hyn, cynhelir arolygon bywyd gwyllt i ddod o hyd i ba blanhigion ac anifeiliaid prin sydd eisoes yno, er mwyn mesur gwelliannau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r prosiect. Bydd gwaith megis clirio prysgwydd yn adfer y glaswelltir arbennig a bydd gosod ffensys yn galluogi i anifeiliaid pori ddychwelyd.
Mae Creigiau Llanymynech yn safle mor arbennig, sydd nid yn unig yn bwysig ar gyfer y bywyd gwyllt y mae’n gartref iddo, ond hefyd y safleoedd cyfagos, a’r bobl sy’n byw gerllaw. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynefinoedd mwy o faint, rhai gwell a mwy cysylltiedig, sy’n beth cywir i’w wneud, a dyma’n union yw hanfod Pori ar y Creigiau. Mae’r Creigiau yn lle hudolus i ymweld ag o, a bydd y prosiect hwn yn galluogi i ni ddod â mwy o bobl i mewn i ryfeddu at y trysorau bywyd gwyllt yma ac i ofalu amdanyntYmddiriedolaeth Natur Maldwyn
Fel rhan o hyn, cynhelir arolygon bywyd gwyllt i ddod o hyd i ba blanhigion ac anifeiliaid prin sydd eisoes yno, er mwyn mesur gwelliannau a gyflwynwyd o ganlyniad i’r prosiect. Bydd gwaith megis clirio prysgwydd yn adfer y glaswelltir arbennig a bydd gosod ffensys yn galluogi i anifeiliaid pori ddychwelyd.
Yn y cyfamser, bydd teithiau cerdded a sgyrsiau natur ar gyfer pob oed, ynghyd ag arwyddion dehongli newydd, yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safle i fywyd gwyllt ymysg y gymuned leol, wrth amlygu rhai o’r planhigion ac anifeiliaid allweddol sy’n galw Creigiau Llanymynech yn gartref.
Ymhellach, bydd y prosiect yn archwilio’r posibilrwydd o gael gyr o dda byw symudol ar gyfer pori at bwrpas cadwraeth. Mae perchnogion parseli o dir sy’n rhy fach i gadw da byw yn aml yn cael gwaith caled cynnal glaswelltiroedd traddodiadol, cynefinoedd sydd wedi dioddef dirywiad sylweddol yn y 75 mlynedd diwethaf. Mae gyr Pori Bacho Wartheg Hynafol Cymru’n ffynnu yn y cynefinoedd hyn a gallant helpu i roi hwb i fioamrywiaeth drwy gynllun pori lleol wedi’i gydlynu. Y brîd yw un o’r ychwanegiadau mwyaf newydd at restr Blaenoriaeth Goroesiad Bridiau Prin yr Ymddiriedolaeth, felly mae diogelwch tymor hir gyr fridio yn hanfodol i’w dyfodol hwy hefyd. Mae’r prosiect hwn hefyd yn bwriadu cyflwyno geifr i’r tîm Pori Bach, lle mae anifeiliaid llai, a mwy heini yn gweddu’n well ar gyfer y cynefin a safleoedd hanesyddol.
Nod y Rhaglen Rhwydwaith Natur yw mynd i’r afael â’r argyfwng byd natur drwy gryfhau gwytnwch safleoedd gwarchodedig a gwella cysylltedd ecolegol er mwyn creu amgylchedd mwy cynaliadwy ac sy’n bositif o ran byd natur. Mae Creigiau Llanymynech yn gyswllt cynefin hanfodol rhwng gogledd a chanolbarth Cymru, Powys a Sir Amwythig. Drwy adfer glaswelltir prin yma, bydd y prosiect Pori ar y Creigiau hefyd yn gwella poblogaethau o rywogaethau sydd dan fygythiad ac sy’n cael eu bygwth yn yr ardal gyfagos.
Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y prosiect hwn. Pori mewn ffordd sensitif yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli ein glaswelltiroedd SoDdGA. Rydyn ni wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Helen Upson o Pori Bach a Dr Simon Spencer o’r blaen. Drwy uno Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a chwilio am fwy o safleoedd ar gyfer pori at bwrpas cadwraeth, bydd yn gwneud cynnal a chadw glaswelltiroedd yn fwy cynaliadwy i bawb sy’n gysylltiedig. Mae Helen eisoes yn pori rhannau o’r Cwrs Golff ac rydym yn bwriadu ehangu hyn ar y cwrs ac ar warchodfa Ymddiriedolaeth Natur MaldwynClwb Llanymynech
© Iain Leach
Ragor o wybodaeth
Cysylltwch ag Alison Alexander, Pennaeth Cadwraeth. Ffôn: 07984 725460; alison@montwt.co.uk