Peter Cairns/2020VISION
Ymddiriedolaethau Natur Cymru: Ein gofynion ar gyfer Etholiadau’r Senedd
Ein gofynion ni
Mae etholiadau nesaf y Senedd yn foment hollbwysig i natur yng Nghymru. Rhaid i'r tymor nesaf (2026-30) gyflawni ymrwymiad Cymru i amddiffyn a rheoli 30% o dir, dŵr croyw a môr yn effeithiol erbyn 2030.
Mae natur yng Nghymru yn dirywio, gydag 1 o bob 5 rhywogaeth yn diflannu - a heb weithredu ar raddfa fawr ac ar gyflymder, bydd y golled hon yn parhau, gan beryglu ein cymunedau, ein hiechyd a'n dyfodol. Ond gyda'r arweinyddiaeth gywir, gall hyn fod yn drobwynt ar gyfer adferiad natur.
Rydym yn galw ar ymgeiswyr i roi natur wrth wraidd gwneud penderfyniadau ac ymrwymo i weithredu dros bobl, natur a'r hinsawdd.
Ein blaenoriaethau ar gyfer ymgeiswyr
Pan gaiff ymgeiswyr eu hethol i'r Senedd, mae camau allweddol y gallant eu cymryd i yrru adferiad natur ledled Cymru. Darllenwch fwy isod.
Creu lle
Galluogi ffermwyr
Cryfhau cynllunio
Cynyddu buddsoddiad
Atal llygredd
Bresgripsiynau gwyrdd
Dysgu mwy am Etholiad y Senedd
Paratowch ar gyfer Etholiad y Senedd, a chwifiwch y faner dros natur ym mis Mai.
Darllenwch Faniffesto Ymddiriedolaethau Natur Cymru: Mae Natur yn Hanfodol
Darllenwch yr ymrwymiadau yr hoffem eu gweld gan ymgeiswyr Etholiad y Senedd ym mis Mai.
Lawrlwythwch ac argraffwch ein posteri "Mae Natur yn Hanfodol"
Chwifiwch y faner dros natur drwy arddangos ein posteri yn eich cymuned leol. Boed hynny'n ofod cymunedol, eich siop leol neu hyd yn oed ffenestr eich ystafell fyw!