
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a thîm cyswllt fferm y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur i gymryd rhan mewn gweithdy’n ymwneud â defnyddio bio-olosg i annog iechyd a ffrwythlondeb pridd a phurdeb dŵr. Yna, cewch fynd ar daith dywysedig o amgylch Fferm Caebardd.
Mae’r ffermwr, Mick Jones, wedi datblygu uned cynhyrchu bio-olosg ar raddfa fasnachol. Mae hyn wedi esgor ar gyfleoedd newydd ar gyfer defnydd masnachol eang, a bellach mae’n defnyddio bio-olosg ar ei fferm yn lle gwrtaith cemegol.
Mae gan y fferm system gwbl gylchol sydd bellach yn cael ei hailadrodd mewn mannau eraill. Caiff y pren a dyfir ar y fferm ei dorri’n sglodion, ei brosesu yn y gwaith bio-olosg, a’i daenu ar y caeau er mwyn gwella iechyd y pridd, gwella’r cnwd a gwella ansawdd y dŵr.
Yn ogystal â thaenu bio-olosg ar y caeau, caiff ei gymysgu â deunydd gorwedd, gan wella lles yr anifeiliaid, yn enwedig iechyd eu traed.
Bydd mochyn rhost ar gael ar ôl y gweithdy.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o’r prosiect Cymunedau Glaswelltir, sef partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur. Caiff ei ariannu gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, sef cronfa Llywodraeth Cymru a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac a weinyddir gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.