Gweledigaeth o Dirwedd Mynydd Waun Fawr

A wide landscape view of an expansive upland area of grassland, blanket bog, lakes and small patches of scrub. There are a couple of sheep in the mid foreground. The sky is largely blue with some white clouds.

Mynydd Waun Fawr 13eg Medi 2024 © MWT/Tamasine Stretton

Prosiect Gweledigaeth Tirwedd Mynydd Waun Fawr

Cefndir y Prosiect

Bwriad Prosiect Gweledigaeth Tirwedd Mynydd Waun Fawr oedd meithrin gwell dealltwriaeth o’r ardal ucheldir anadnabyddus yma a gweithio gyda’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma er mwyn llunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer ei dyfodol. Dros gyfnod y prosiect, fe wnaethom gyfuno arolygon ecolegol, gwybodaeth leol, a sgyrsiau amrywiol gyda thirfeddianwyr, cymunedau a sefydliadau partner i feithrin sylfeini cadarn ar gyfer adferiad byd natur hirdymor.

Mynydd Waun Fawr Landscape Vision project boundary shown in read outline overlaid on an Ordnance Survey map at 1:250,000 scale

Beth Wnaethom Ni

1. Gwybodaeth drylwyr o fywyd gwyllt a chynefinoedd

Bu i arolygon ecolegol - wedi’u cefnogi gan arbenigwyr lleol - fapio cynefinoedd a chofnodi rhywogaethau sy’n cael blaenoriaeth ar draws y dirwedd ucheldir. Datgelodd hyn bod yr ardal yn llawer mwy cyfoethog mewn bywyd gwyllt nag a ddeallwyd yn flaenorol.

Roedd prif gyflawniadau yn cynnwys:

  • Adnabod nifer o lefydd poblogaidd ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau pwysig
  • Ychwanegu cofnodion biolegol newydd er mwyn atgyfnerthu’r sail tystiolaeth ranbarthol
  • Cefnogi dynodi saith Safleoedd Bywyd Gwyllt a Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC), gyda rhagor nawr yn cael eu hasesu

Bydd cael gwybodaeth well fel yma yn arwain gwaith cadwraeth yn y dyfodol ac yn helpu i warchod safleoedd sensitif rhag cael eu datblygu mewn ffordd amhriodol.

2. Wedi creu Gweledigaeth Tirwedd gyffredin

Gan gyfuno data ecolegol, mewnwelediadau cymunedol a thrafodaethau gyda pherchnogion tir a rheolwyr tir, rydym wedi datblygu cyfres o fapiau Gweledigaeth Tirwedd. Mae’r mapiau hyn:

  • Yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer adfer cynefinoedd
  • Adnabod ardaloedd lle gall cysylltedd cynefinoedd gael ei wella
  • Adlewyrchu blaenoriaethau lleol a gasglwyd drwy weithdai, sesiynau pop-yp ac arolygon ar-lein

Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod Gweleidigaeth Tirwedd wedi’i gwreiddio mewn tystiolaeth wyddonol a phrofiad bywyd pobl sy’n adnabod yr ardal orau.

3. Wedi cynnwys mwy o bobl fel rhan o lunio dyfodol y dirwedd

Ymgysylltodd y prosiect gydag ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen yn y rhan hon o Sir Drefaldwyn. Rydym wedi:

  • Cynnal gweithdai cymunedol dwyieithog ar draws ardal y prosiect
  • Cynnig digwyddiadau pop-yp er mwyn cefnogi pobl sydd heb fynediad digidol digonol
  • Cynnal arolygon ar-lein er mwyn casglu barn unigolion, grwpiau a sefydliadau
  • Cynnal sgyrsiau parhaus gyda pherchnogion tir drwy gydol y prosiect

Helpodd y gweithgareddau hyn i godi proffil bywyd gwyllt a threftadaeth yr ardal, atgyfnerthu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol, a denu diddordeb newydd mewn rhywogaethau megis y Gylfinir - sef rhywbeth a oedd yn flaenoriaeth i nifer o gyfranogwyr.

Pam Fod y Prosiect yn Bwysig

Mae Mynydd Waun Fawr yn dirwedd ucheldir nodedig nad yw’n cael digon o sylw. 

Diolch i’r prosiect, mae gennym bellach:

  • Ddealltwriaeth lawer gwell o’i bywyd gwyllt a chynefinoedd
  • Gwarchodaeth gryfach ar gyfer safleoedd pwysig
  • Gweledigaeth gyffredin i arwain gwaith adfer byd natur yn y dyfodol
  • Perthnasoedd newydd a rhai wedi’u hatgyfnerthu gyda chymunedau lleol, perchnogion tir, a sefydliadau partner

Mae’r prosiect wedi gosod y sylfeini ar gyfer camau gweithredu yn yr hir dymor ar raddfa tirwedd sy’n cefnogi bywyd gwyllt, treftadaeth ddiwylliannol a’r bobl sy’n gysylltiedig â’r lle arbennig hwn.

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Er bod y prosiect nawr wedi gorffen, bydd y deilliannau’n parhau i fod yn sail i waith yn y dyfodol.

Bwriad y mapiau Gweledigaeth Tirwedd yw iddynt gael eu defnyddio gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes - rheolwyr tir, cyrff cyhoeddus, grwpiau lleol ac elusennau megis Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn - er mwyn arwain y gwaith o weithredu dros fyd natur a’r hinsawdd ar draws y dirwedd.

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio sicrhau y bydd y mapiau ar gael am ddim a byddwn yn gosod dolenni yma cyn gynted ag y byddant yn barod. Bydd Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn hefyd yn defnyddio’r mapiau er mwyn cynorthwyo i gyflawni prosiectau yn y dyfodol a chefnogi cydweithrediad parhaus gyda’r bobl sy’n adnabod y dirwedd ac sy’n ei mwynhau.

Logo Nature Networks Fund 3 non-lottery Welsh Government

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.