Perlau Gwerthfawr; dyfodol gwell?

Perlau Gwerthfawr; dyfodol gwell?

Pearl-bordered Fritillary butterfly © Montgomeryshire Wildlife Trust

Yn dilyn llwyddiant apêl Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn i achub y glöyn byw Brith Perlog fis Rhagfyr y llynedd - ‘Brith Perlog - Gobaith Newydd’ - mae gwaith cynefin amserol a thywydd da'r Gwanwyn wedi helpu i sicrhau cynnydd mewn niferoedd yn y mwyafrif o safleoedd. Nawr ein bod wedi gallu sicrhau mwy o gyllid, a fydd y dyfodol yn well i’r rhywogaeth brin hon sydd o dan fygythiad?

Dros 20 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (YNM) wedi bod yn gweithio i ddiogelu ac ehangu’r boblogaeth o’r glöyn byw Brith Perlog sy’n weddill ym Maldwyn. Gyda thywydd gwael ac ansawdd y cynefin yn gostwng yn y blynyddoedd diweddar, roedd y brith perlog druan yn dioddef; roedd y boblogaeth yn mynd yn beryglus o isel.

Serch hyn, diolch i haelioni’r rheini a gyfrannodd at yr apêl (#PBFANewHope) gaeaf diwethaf, llwyddodd YNM i weithio ar dros 6 hectar o gynefin, i wella ei addasrwydd ar gyfer y glöyn byw. Pan gyrhaeddodd y glöyn byw, dilynwyd hynny gan wanwyn cynnes a sych; tywydd perffaith i’r pryfyn bregus i wasgaru ei adenydd; atgenhedlu a dodwy ei wyau. Roedd niferoedd y gloÿnnod byw llawn dwf wedi cynyddu ar y mwyafrif o safleoedd; ar ôl pum mlynedd olynol o ostyngiad, roedd hynny’n rhyddhad mawr!

 

Contractor cutting bracken & scrub for PBFs 27th February 2018

Contractor cutting bracken & scrub for PBFs 27th February 2018

Dyma lygedyn arbennig o obaith ar gyfer y Brith Perlog, ond mae angen rheolaeth gynefin reolaidd er mwyn cadw’r momentwm i fynd. Gyda hynny mewn golwg, mae YNM yn falch iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu cyllido ein gwaith ar y rhywogaeth hon. Mae’r prosiect ‘Perlau Gwerthfawr’ bellach ar waith a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2019. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i wneud mwy o welliannau i gynefinoedd, parhau i fonitro’r rhywogaethau a chwilio am safleoedd newydd, yn ogystal â chynnwys cymunedau, ysgolion a gwirfoddolwyr lleol mewn gwaith i achub y glöyn byw.

Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, ein hetifeddiaeth ac ein diwylliant yng Nghymru ac mae’n holl bwysig i gefnogi prosiectau fel hyn drwy ein rhaglen grantiau cymorth. Bydd y cyllid hwn yn rhoi llawer o gymorth i Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn i barhau â’i gwaith pwysig i amddiffyn y glöyn byw Brith Perlog fel y gallwn ei weld yn ffynnu yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Linda Ashton, Uwch Swyddog Partneriaeth, Mynediad a Hamdden
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’n bosib dod o hyd i’r glöyn byw Brith Perlog mewn un ar ddeg safle yn unig dros Gymru gyfan, mae wyth ohonynt ym Maldwyn. Heb ein cymorth ni, nid oes amheuaeth y byddwn yn ei golli am byth. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn hynod falch o fod wedi gallu sicrhau’r cyllid er mwyn cynorthwyo i ddiogelu’r rhywogaeth hon er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu ei mwynhau hefyd.
Tammy Stretton, Swyddog Cadwraeth
Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
Natural Resources Wales & Welsh Government logos

Perlau Gwerthfawr; dyfodol gwell? datganiad i'r wasg