Mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn falch o gyhoeddi ein bod yn ymuno â Chlwb Golff Llanymynech, Helen Upson o’r fenter pori cadwriaethol Pori Bach, ac arbenigwr lleol ar löynnod byw, Dr Simon Spencer, i adfer glaswelltiroedd sy’n llawn bywyd gwyllt prin ar Greigiau Llanymynech.
Mae’r tîm wedi sicrhau £249,500 gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, wedi’i ddarparu drwy’r Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru, ar gyfer prosiect cydweithredol newydd arloesol, Pori ar y Creigiau, a fydd yn cael ei arwain gan y clwb golff.
A hithau’n hen chwarel ym Mhowys rhwng Llanymynech a Phant, mae Creigiau Llanymynech yn gartref i Glwb Golff Llanymynech, a Gwarchodfa Natur Creigiau Llanymynech - ac mae’r ddau wedi’u lleoli y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Dan ofal Clwb Golff Llanymynech, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ac Ymddiriedolaeth Natur Amwythig, mae’r bryn yn fwyaf enwog am ei löynnod byw ond mae hefyd yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt hyfryd, megis tegeiriannau prin, gwenyn, ystlumod ac ymlusgiaid.
n un o blith llond dwrn o gerrig brig calchfaen ar draws ffin ddwyreiniol Cymru, mae Creigiau Llanymynech yn noddfa ar gyfer y planhigion ac anifeiliaid prin sy’n gysylltiedig gyda’i daeareg a phridd unigryw ac mae wedi’i amddiffyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei bwysigrwydd mawr i fywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae’r safle angen ei adfer ar frys.
Dywedodd Clive Faulkner, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn:
“Mae Creigiau Llanymynech yn safle mor arbennig, sydd nid yn unig yn bwysig ar gyfer y bywyd gwyllt y mae’n gartref iddo, ond hefyd y safleoedd cyfagos, a’r bobl sy’n byw gerllaw. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gynefinoedd mwy o faint, rhai gwell a mwy cysylltiedig, sy’n beth cywir i’w wneud, a dyma’n union yw hanfod Pori ar y Creigiau. Mae’r Creigiau yn lle hudolus i ymweld ag o, a bydd y prosiect hwn yn galluogi i ni ddod â mwy o bobl i mewn i ryfeddu at y trysorau bywyd gwyllt yma ac i ofalu amdanynt."
Dywedodd Sean Borrett, Rheolwr Cwrs Clwb Llanymynech:
“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y prosiect hwn. Pori mewn ffordd sensitif yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli ein glaswelltiroedd SoDdGA. Rydyn ni wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Helen Upson o Pori Bach a Dr Simon Spencer o’r blaen. Drwy uno Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a chwilio am fwy o safleoedd ar gyfer pori at bwrpas cadwraeth, bydd yn gwneud cynnal a chadw glaswelltiroedd yn fwy cynaliadwy i bawb sy’n gysylltiedig. Mae Helen eisoes yn pori rhannau o’r Cwrs Golff ac rydym yn bwriadu ehangu hyn ar y cwrs ac ar warchodfa Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.”