Pori ar y Creigiau - Digwyddiad Lansio

Cow at Llanymynech Golf Club

Pori ar y Creigiau - Digwyddiad Lansio

Lleoliad:
Llanymynech Golf Club, Pant,
Nr Oswestry,
SY10 8LB
Ymunwch â ni i ddysgu am y prosiect Pori ar y Creigiau a sut y gallwch gymryd rhan mewn teithiau cerdded, arolygon a gwirfoddoli.

Manylion y digwyddiad

View on What3Words

Dyddiad

Time
2:00pm - 4:00pm
A static map of Pori ar y Creigiau - Digwyddiad Lansio

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni i ddysgu am y prosiect Pori ar y Creigiau. Mae hon yn bartneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Clwb Golff Llanymynech, menter pori cadwriaethol Pori Bach a’r arbenigwr lleol ar loÿnnod byw, Dr Simon Spencer, sy’n cydweithio ar brosiect newydd i adfer glaswelltiroedd llawn bywyd gwyllt prin ar Greigiau Llanymynech i’w gogoniant blaenorol. Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd ichi gymryd rhan mewn teithiau cerdded, arolygon a gwirfoddoli.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad i’r prosiect a darlithoedd gan Helen Upson o Pori Bach a Simon Spencer, darperir te/coffi a chacen. Yn ddibynnol ar y tywydd, bydd taith gerdded fer draw i’r lloc gwartheg presennol i weld y gwaith mae’r prosiect hwn yn adeiladu arno.

Mae'r prosiect hwn yn digwydd fel rhan o’r prosiect Pori ar y Creigiau, sy’n cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydwaith Natur, a’i ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebu

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Mae archebu’n hanfodol. I gadw eich lle, anfonwch e-bost at: lowri@montwt.co.uk

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Anfonwch e-bost at Lowri i drafod eich anghenion symudedd

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Ar gyfer y daith gerdded, gwisgwch esgidiau addas ar gyfer tir creigiog anwastad a dillad addas i’r tywydd

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Parciwch yng Nghlwb Golff Llanymynech
image/svg+xmli

Cyfleusterau

Toiledau