© Iain Leach
Butterfly Walk at Llanymynech Rocks
Llanymynech Rocks,
Rhwng Llanymynech a Phant, Llanymynech, Powys, SY22 6HD
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae’n werth ymweld â Chreigiau Llanymynech ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn y gwanwyn mae’r garreg frig galchfaen yn dod yn fyw gyda lliw, blodau gwyllt a’r gloÿnnod byw y mae, fwy na thebyg, yn fwyaf adnabyddus amdanynt.
Bydd yr entomolegydd (arbenigwr ar bryfed) lleol, Dr Simon Spencer, yn arwain taith fuddiol a phleserus o amgylch y safle i ddod o hyd i loÿnnod byw, megis y Brwmstan a’r Brithribin Gwyrdd. Mae croeso i bobl o bob oed a gallu, gan gynnwys plant yng nghwmni oedolyn.
Gan gyfarfod ym maes parcio Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Amwythig, bydd cerddwyr wedyn yn mynd i fyny am Glwb Golff Llanymynech ac ar Lwybr Clawdd Offa, gyda chyfanswm pellter cerdded o oddeutu 1-1.5km sy’n para oddeutu 2 awr. Mae’r llwybrau’n gul a serth mewn rhai lleoedd a gall fod yn fwdlyd a llithrig yn dibynnu ar y tywydd. Am ragor o wybodaeth ar hygyrchedd, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ni fydd cost ar gyfer y digwyddiad hwn, ond mae’n hanfodol archebu lle er mwyn ein helpu i gynllunio. Mae gloÿnnod byw angen haul, felly os yw rhagolygon y tywydd yn awgrymu amodau anffafriol fe fydd y digwyddiad yn cael ei ganslo a byddwn yn cysylltu â mynychwyr y digwyddiad.
Os na allwch ddod ar y daith gerdded hon, ond bod gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y safle a’i loÿnnod byw, cysylltwch â Simon am deithiau cerdded byr rybudd a/neu gyfleoedd i wirfoddoli
Mae'r prosiect hwn yn digwydd fel rhan o’r prosiect Pori ar y Creigiau, sy’n cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydwaith Natur, a’i ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru