30 Diwrnod Gwyllt

#30DaysWild web banner

30 Diwrnod Gwyllt

Her natur fwyaf y DU

30 Diwrnod Gwyllt yw her natur flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur lle rydyn ni’n gofyn i'r genedl wneud un peth 'gwyllt' y dydd bob dydd drwy gydol mis Mehefin.

Gall eich Gweithredoedd Gwyllt ar Hap dyddiol fod yn unrhyw beth rydych chi'n ei hoffi - casglu sbwriel, gwylio adar, sblasho mewn pyllau, dewiswch chi! Ond i'ch helpu ar eich taith, bydd yr Ymddiriedolaethau Natur hefyd yn darparu pecyn post neu ddigidol AM DDIM o nwyddau i chi, i ysbrydoli eich mis gwyllt - gan gynnwys pasbort gweithgarwch a siart wal i dracio eich cynnydd. Ochr yn ochr â'r holl fanteision hyn, profwyd yn wyddonol bod cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt yn gwneud i chi deimlo'n hapusach, yn iachach ac mewn mwy o gysylltiad â byd natur.

Yn 2020, cymerodd mwy na hanner miliwn o bobl ran, o deuluoedd a chyplau i athrawon, cartrefi gofal a gweithleoedd. Mae gwahoddiad i bawb!

Cofrestru

Rydw i'n hoff iawn o 30 Diwrnod Gwyllt – rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o'r brwdfrydedd mawr sy'n amlygu ei hun ym mhawb sy’n cymryd rhan! Byddwch yn greadigol a dod o hyd i 30 o ffyrdd newydd o gael eich ysbrydoli gan harddwch yr awyr agored a byd natur neu gael eich diddanu drwy roi cynnig ar weithgareddau natur newydd. Mae'n hynod bwysig os ydych chi'n byw yn y ddinas gan fod natur o gwmpas ym mhob man, yn aros am gael ei darganfod.
Mya-Rose Craig, aka Birdgirl
man at rest on flowery lawn

Beth yw 30 Diwrnod Gwyllt?

 

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her hwyliog sy’n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaethau Natur bob mis Mehefin. Mae’n ôl am ei chweched blwyddyn ac mae’n dod â phobl yn nes at natur yn y mannau lle maen nhw’n byw, gan roi camau gweithredu bychain ar waith i gael effaith fawr! O bethau bychain fel gwylio gwenynen o’ch ffenest neu fwydo adar, i roi’r gorau i ddefnyddio plastig defnydd sengl am fis neu gloddio pwll yn eich gardd: mae pob Gweithred Wyllt yn cyfrif. Os ydych chi eisiau gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud, edrychwch am #30DiwrnodGwyllt ar gyfryngau cymdeithasol.

Beth sydd ym mhecyn 30 Diwrnod Gwyllt?

Pan fyddwch chi'n cofrestru, fe gewch chi becyn o nwyddau am ddim i'ch helpu chi i gynllunio'ch mis gwyllt, hefyd, llawer o syniadau i'ch ysbrydoli chi i ddal ati i fod yn wyllt drwy gydol mis Mehefin (a thu hwnt!).

Pam cymryd rhan?

 

Er bod byd natur ein hangen ni’n fwy nag erioed, mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Rydyn ni i gyd yn rhan o fyd natur a dylai fod yn rhan o’n bywydau ni. Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Derby i gael gwybod am effaith 30 Diwrnod Gwyllt ar gyfranogwyr. Mae’r canlyniadau’n dangos bod pobl yn teimlo’n hapusach ac yn iachach ar ôl cymryd rhan, ac am fisoedd wedyn hefyd!

Darllenwch yr adroddiad

Beth yw Gweithred Wyllt?

Mae Gweithred Wyllt yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud bob dydd er mwyn cynnwys ychydig o fyd natur yn eich bywyd. Dim ond ychydig eiliadau, neu funudau, mae’n ei gymryd, neu os byddwch yn ymgolli’n llwyr, ychydig oriau! Mae gennym ni ychydig o syniadau isod – ond fe allwch chi greu eich rhai chi hefyd!

Two girls hugging a tree; image by Pezibear on Pixabay

Two girls hugging a tree; image by Pezibear on Pixabay

Cofleidiwch goeden

Early Bumblebee Jon Hawkins Surrey Hills Photography

WildNet - Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Dilynwch wenyn

bug hotel

bug hotel

Dyluniwch gartref ar gyfer bywyd gwyllt

Dyfi Ospreys Telyn (on nest) and Idris at Cors Dyfi Nature Reserve

Dyfi Ospreys Telyn (on nest) and Idris at Cors Dyfi Nature Reserve

Gwyliwch we-gamera