Pryf copyn yr ardd

Garden Spider

Garden Spider ©David Longshaw

Pryf copyn yr ardd

Enw gwyddonol: Araneus diadematus
Ydych chi wedi stopio erioed i edrych ar siâp gwe pryf cop? Mae pryf copyn yr ardd yn creu gwe droellog, sy’n berffaith ar gyfer dal ysglyfaeth blasus!

Species information

Ystadegau

Hyd y Corff: 0.9-1.8cm

Statws cadwraethol

Cyffredin.

Pryd i'w gweld

Mehefin - Tachwedd

Ynghylch

Pryf copyn yr ardd yw’r pryf copyn cronnell mwyaf cyffredin yn y DU ac mae i’w weld yn aml mewn gerddi, a dyma sut mae wedi cael ei enw! Mae’n llwydfrown ei liw gyda chroes wen ar ei gefn ac mae’n creu gwe droellog enwog iawn! Mae’n eistedd yng nghanol y we gan aros am ddigryniadau pryf sydd wedi cael ei ddal yn y we ludiog. Wedyn mae’n brysio allan ac yn lapio ei ysglyfaeth yn dynnu mewn sidan i’w atal rhag symud – gan orffen y dasg gyda brathiad gwenwynig! Gall hyn swnio’n ddychrynllyd – ond nid yw’n gallu niweidio pobl o gwbl!

Sut i'w hadnabod

Pryf copyn yr ardd yw un o’r pryfed cop hawsaf i’w adnabod. Fel rheol mae’n llwydfrown neu frowngoch ei liw, gyda chroes fawr wen (yn cynnwys smotiau a rhesi gwan) ar ei abdomen. Mae’r benywod ddwywaith maint y gwrywod.

Dosbarthiad

Eang.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae sidan pryf copyn yn eithriadol ysgafn: byddai rhimyn o sidan sy’n ddigon mawr i fynd bob cam o amgylch y Ddaear yn pwyso llai na 500 gram – mae hynny yr un faint â bag o siwgr! Mae hefyd mor gryf â Kevlar, y deunydd sy’n cael ei ddefnyddio i greu festiau atal bwledi.