Cynefin

Ross Hoddinott/2020VISION

Ross Hoddinott/2020VISION

Cynefin

Lleoliad:
Llangorse Multi Activity Centre, Gilfach Farm, Llangorse,, Brecon, Powys, LD3 7UH
A two-day celebration of nature-friendly farming

Manylion y digwyddiad

View on What3Words

Dyddiad

-
Time
9:00am - 3:00pm
A static map of Cynefin

Ynglŷn â'r digwyddiad

Cynefin: Croeso cynnes i bawb!

Croeso i Cynefin, dathliad deuddydd bywiog sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng amaethyddiaeth, byd natur, a chymuned cefn gwlad.

Mae Cynefin yn cyfeirio at ymdeimlad o le - y man lle rydyn ni’n teimlo ein bod yn perthyn, ac rydyn ni’n cael tawelwch meddwl o adnabod y golygfeydd a’r seiniau. Mae’n air sy’n crisialu’r cysylltiad rhwng ffermwyr, eu tir, a natur.

Ymunwch â ni am ŵyl ddeuddydd unigryw yng Nghanolfan Aml-weithgareddau Llangors. Dyma gyfle i ffermwyr, cadwraethwyr, llunwyr polisi, ag unrhyw un sy’n frwd dros natur i ddod ynghyd i ddathlu'r rôl hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth warchod a gwell amgylchedd Cymru.

Archebu tocynnau ar Eventbrite

Byddwn yn herio’r gred bod anghydfod rhwng ffermio a natur, gan ddangos y gall y ddau gydfodoli er budd ffermwyr a bywyd gwyllt.

Bydd y penwythnos yn dechrau gan fwrw golwg ar sut mae ffermwyr yn rheoli tir mewn ffordd adfwyiol. Dyma flas ar rai o sgyrsiau’r dydd:

  • Pori yn rhagori: Darganfyddwch fanteision rheoli da byw strategol.
  • Ffiniau ffynianus: Golwg gynhwysfawr ar fywyd cudd ein gwrychoedd/ perthi/ shetyn/ llwyni
  • Galwad y Gylfinir: Archwilio rôl hanfodol ffermydd wrth warchod un o’n hadar mwyaf eiconig

Bydd cyfle i dorchi llewys gyda nifer o arddangosiadau ymarferol, gan gynnwys saffari gwrychoedd a sesiwn dadansoddi iechyd pridd. Mae’n anrhydedd gennym groesawu Alun Elidyr fel ein siaradwr gwadd, a bydd y diwrnod yn cloi gyda noson o luniaeth a cherddoriaeth byw.

Dydd Sul: Cydweithio a Tro ar y Tir

Byddwn yn ehangu ein gorwelion ar y Sul, gan roi sylw i:

  • Nerth mewn Niferoedd: Ffermio cydweithredol er lles y tirlun.
  • Tro ar y Tir: Taith dywys o amgylch y fferm.
  • Sesiwn Gloi: Cyfle olaf i bawb ddod at ei gilydd i fyfyrio ac edrych tua’r dyfodol.

Gwybodaeth Hanfodol

  • Lluniaeth: Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu ar y safle.
  • Teuluoedd: Mae nifer o weithgareddau i blant ar gael yn y ganolfan (rhaid prynu ar wahân).
  • Llety: Hoffech chi ddeffro i gôr y wîg? Gellir archebu gwersylla ar y dudalen hon.


Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan - edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld chi yno!

Archebu tocynnau ar Eventbrite

Archebu

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Plant, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Cysylltwch â ni

Carla Evans
Cysylltu e-bost: carla@montwt.co.uk