Swift; (c) David Tipling/2020VISION
Hystings Natur Etholiad y Senedd 2026
Ynglŷn â'r digwyddiad
Aelodau'r Senedd sy'n penderfynu ar y polisïau sy'n llunio defnydd tir yn ein gwlad. Mae eu dewisiadau'n cael effaith uniongyrchol ar iechyd ein hafonydd, priddoedd ac awyr. Mae dyfodol yr holl fywyd gwyllt rhyfeddol rydyn ni'n ei garu, o ddyfrgwn i weilch y pysgod ac o afancod i bili-pala, yn eu dwylo nhw.
Ar gyfartaledd, gostyngodd bywyd gwyllt Cymru 20% rhwng 1994 a 2023. Mae tua 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu, gan gynnwys bywyd gwyllt a oedd unwaith yn gyffredin fel y Gylfinir, y Pathew a'r Draenog. Mae gan Aelodau'r Senedd y pŵer i droi hyn o gwmpas a helpu natur i ffynnu eto.
Dyma'ch cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr a chlywed cynlluniau eu pleidiau ar gyfer y byd naturiol yn ystod tymor nesaf y Senedd o 2026-2030.
Bydd y hystings hefyd yn cael eu rhannu'n fyw. Bydd y ddolen ymuno yn cael ei phostio ar y dudalen hon.