
Sut i arbed dŵr
Os byddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan i arbed cyflenwadau dŵr gwerthfawr, fe allwn ni wneud gwahaniaeth enfawr i'r amgylchedd.
Mae'r person cyffredin yn defnyddio tua 140 litr o ddŵr bob dydd. Ond mae disgwyl diffyg dŵr enfawr erbyn y 2080au - felly mae angen i ni ddechrau lleihau ein defnydd.
Mae arbed dŵr yn golygu defnyddio dŵr yn ddoeth a pheidio â chyfrannu at wastraff diangen.
Y prif resymau dros arbed dŵr:
- Mae arbed dŵr yn arbed ynni. Mae angen ynni i hidlo, cynhesu a phwmpio dŵr i'ch cartref chi, felly mae lleihau eich defnydd o ddŵr hefyd yn lleihau eich ôl troed carbon.
- Mae defnyddio llai o ddŵr yn cadw mwy yn ein hecosystemau ni ac yn helpu i gadw cynefinoedd gwlybdir yn wlyb ar gyfer anifeiliaid fel dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, y crëyr glas a physgod. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau o sychder ac mewn ardaloedd fel De Ddwyrain Lloegr lle mae galw mawr am gyflenwadau dŵr.
- Gall arbed dŵr arbed arian i chi. Os oes gennych chi fesurydd dŵr, po leiaf o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, y lleiaf fydd y symiau o arian fydd eich cwmni dŵr yn eu cymryd gennych chi.
Gall aros i'r tap redeg yn oer wastraffu 10 litr o ddŵr tap y dydd!
Arbed dŵr yn y gegin:
- Rhowch botel fawr o ddŵr tap yn yr oergell rhag gorfod aros i'r tap redeg yn oer. Gall aros i'r tap redeg yn oer wastraffu 10 litr o ddŵr y dydd!
- Llenwch y tegell gyda faint o ddŵr sydd ei angen yn unig.
- Rhowch gaeadau ar sosbenni i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli wrth gynhesu.
- Defnyddiwch eich peiriant golchi llestri a'ch peiriant golchi dillad gyda llwythi llawn a defnyddio’r gosodiad eco pan mae hynny’n bosib.
- Defnyddiwch bowlen golchi llestri yn eich sinc i leihau faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio i lenwi'r ardal.
Arbed dŵr yn yr ystafell ymolchi:
- Caewch y tap wrth lanhau eich dannedd. Gall tap sy'n rhedeg wastraffu mwy na 6 litr o ddŵr y funud!
- Prynwch doiled sy'n effeithlon o ran dŵr (un gyda fflysh deuol) neu beidio â fflysho os yw’r cynnwys yn felyn, dim ond pan mae’n frown!!
- Defnyddiwch ddyfais dadleoli sistern i arbed hyd at 5,000 litr o ddŵr bob blwyddyn. Maen nhw am ddim gan y rhan fwyaf o gwmnïau dŵr.
- Cael cawod yn lle cael bath. Mae bath cyffredin yn defnyddio tua 80 litr o ddŵr, ond mae cawod fel rheol yn defnyddio rhwng 6 a 45 litr.
- Gosodwch dapiau a chawodydd sy'n effeithlon o ran dŵr i leihau gwresogi dŵr - bydd hyn yn arbed arian i chi ar eich biliau dŵr ac ynni, yn ogystal â lleihau eich ôl troed carbon.
- Trwsio tap sy'n diferu. Gall tap sy'n diferu wastraffu 15 litr o ddŵr y dydd!
Arbed dŵr yn yr ardd:
- Gall chwistrellwyr ddefnyddio cymaint â 1,000 litr o ddŵr yr awr! Mewn gwirionedd, mae'n iawn i'r lawnt droi’n frown, bydd yn adfer y tro nesaf y bydd hi'n bwrw glaw.
- Defnyddiwch gasgen ddŵr i ddal llawer iawn o ddŵr glaw a defnyddiwch hon i ddyfrio eich planhigion, glanhau eich car a golchi eich ffenestri.
- Defnyddiwch domwellt a rhisgl yn eich gardd, bydd yn helpu i leihau anweddiad hyd at 75%.
- Plannwch blanhigion sy'n gallu gwrthsefyll sychder heb fod angen cymaint o ddyfrio.
Mae rhagor o gyngor defnyddiol a gwybodaeth fanwl ar gael ar wefan WaterWise.
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr gan fod rhai yn cynnig gostyngiadau ar offer arbed dŵr, fel casgenni dŵr!