Mantell garpiog
Enw gwyddonol: Polygonia c-album
Mae gan y fantell garpiog ymylon adenydd carpiog nodedig, sy'n helpu i'w chuddliwio - wrth orffwys, mae'n edrych yn union fel deilen farw! Mae'n ffafrio ymylon coetir, ond gellir ei gweld yn bwydo ar ffrwythau sydd wedi syrthio mewn gerddi.
Gwybodaeth am rywogaethau
Ystadegau
Wingspan: 5.0-6.4cmStatws cadwraethol
Common.
Pryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrYnghylch
Mae’r fantell garpiog yn löyn byw oren a brown canolig ei faint. Mae'n cael ei enw yn Saesneg, Comma, o'r smotiau gwyn siâp atalnod sydd o dan ei adenydd. Mae ar yr adain drwy gydol y flwyddyn, yn cael sawl nythaid ac yn gaeafu fel oedolyn. Mae'n löyn byw cyffredin ac eang yn ymylon y coetir, yn enwedig yn ystod y gwanwyn a'r hydref. Mae'r lindys yn bwydo ar ddanadl poethion, llwyfenni a helyg.Mae ganddynt frychau brown a gwyn sy'n gwneud iddynt edrych fel tail adar ac yn helpu i'w cuddliwio.