Fairway to Haven yn dod i'r Trallwng

Fairway to Haven yn dod i'r Trallwng

A view of Welshpool Golf Club in February 2023 © MWT/Tamasine Stretton

Mae Clwb Golff y Trallwng wrth eu bodd o gyhoeddi fod prosiect newydd gwych yn mynd rhagddo. Mae Fairway to Haven y Trallwng yn brosiect newydd cyffrous sy’n canolbwyntio ar reoli a gwella’r safle ar gyfer natur, gan hefyd wella mynediad i bobl leol. Bydd y clwb golff yn gweithio ag arbenigwyr Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn drwy gydol y prosiect hwn i weithio tuag at y deilliant gorau i fywyd gwyllt.

Dyfarnwyd £170,000 i’r prosiect oddi wrth Gronfa Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan CGGC.

Mae Clwb Golff y Trallwng yn rheoli 91 hectar o dir, ryw 3 milltir o dref y Trallwng. Y mae eisoes yn cefnogi amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, planhigion a ffyngau ond gan mai dim ond un rhan o dair o’r tir sy’n cael ei reoli’n rhagweithiol ar hyn o bryd ar gyfer golff, mae yna botensial enfawr i ardaloedd mawr o gynefinoedd gael eu rheoli er budd natur. Yn union gyfagos â’r clwb golff mae Y Golfa (25 hectar ychwanegol), sef ardal o dir sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth er budd iâr-fach-yr-haf y fritheg ymyl berl. Dyma un o’r naw safle yn unig sydd ar ôl yng Nghymru gyfan ar gyfer y rhywogaeth hon sydd o dan fygythiad, a hon yw’r boblogaeth bwysicaf, gyda phedwar safle arall gerllaw. Mae rhywogaethau eraill sydd o dan fygythiad wedi cael eu cofnodi ar y safle hefyd gan gynnwys y Bras Melyn, Corhedydd y Coed, Iâr-fach-yr-haf y fritheg ymyl berl (Boloria selene) a’r Ysgyfarnog Mawr (Lepus Europaeus).

An open landscape view with a carpet of bluebells amongst dead bracken in the foreground, stretching away to scattered trees covered in white blossom, and then distant hills in the background

Golygfa’r Gwanwyn yng Nghlwb Golff y Trallwng © MWT/Tamasine Stretton

Roedd y cyfle i bartneru a gweithio â’r Ymddiriedolaeth ar y prosiect ffantastig hwn yn un rhy dda i’w golli. Gyda help cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, nid yn unig fydd prosiect Fairway to Haven yn creu cynefinoedd newydd i’r Fritheg, ond bydd hefyd yn darparu gwell amgylcheddau i natur ffynnu ar Fryn Golfa. Mae ymgysylltu â chymunedau lleol a’r cyhoedd wedi bod yn nod gan Glwb Golff y Trallwng ers nifer o flynyddoedd, a pha well ffordd o wneud hynny na thrwy brosiect Fairway to Haven a’r Ymddiriedolaeth.
Jonathan Gamble
Rheolwr y Cwrs yng Nghlwb Golff y Trallwng

Mae’r prosiect newydd yn galluogi’r clwb golff i weithio ag Ymddiriedolaeth Nat i sefydlu grŵp gwirfoddoli ‘Ffrindiau’r Fritheg’ i gyflawni rheolaeth ar gynefinoedd ac arolygon, prynu peiriannau arbenigol angenrheidiol i weithio mewn rhedyn a sgrwb ar lethrau serth, cynnal digwyddiadau, gosod dehongliadau newydd a gwella mynediad. Mae Clwb Golff y Trallwng yn lle prydferth i ymweld ag e, â golygfeydd prydferth dros Ogledd a Chanolbarth Cymru ar ddiwrnod clir. Mae mynediad agored i’r safle â sawl llwybr troed cyhoeddus, gan gynnwys yr enwog Lwybr Glyndŵr. 

Bydd y prosiect hwn yn helpu i gynnal y llwybrau troed hyn, gwella mynediad a galluogi pobl i’w defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Byddai hyn yn galluogi pobl i ddod yn nes at natur wrth stepen eu drws.

A butterfly resting wings closed on top of a plant. The butterfly is patterned in different shades of orange, orange-red, orange-yellow and black.

Iâr-fach-yr-haf y Frithell Ymyl Berl © Bob Eade

Rydym ni’n hynod o falch o fod yn gweithio gyda Chlwb Golff y Trallwng ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Mae angen pob cymorth ar y Frithegl! Mae’r cwrs golff eisoes yn lle ffantastig i fywyd gwyllt, ond bydd y prosiect hwn yn galluogi rheoli mwy o gynefinoedd, er budd natur, pobl a’r hinsawdd. Allwn ni ddim ag aros i ragor o bobl ddarganfod y lle anhygoel hwn a mwynhau’r holl fywyd gwyllt arbennig sydd wedi ymgartrefu yno
Tammy Stretton, Swyddog Cadwraeth
Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Bydd y prosiect yn edrych ar wirfoddolwyr i ymuno â grŵp ‘Ffrindiau’r Fritheg’ i gyflawni rheoli cynefinoedd ac arolwg o ieir-fach-yr-haf a bywyd gwyllt eraill. Os nad oes gennych drafnidiaeth i fynd i’r clwb golff, mae’n bosibl y gallai fod cyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth o’r Trallwng.

Dyddiad i'r dyddiadur! Dydd Sul 4 Chwefror 2024, 2-4yh, bydd digwyddiad lansio prosiect yng Nghlwb Golff Y Trallwng. Croeso i bawb.

- I ddarganfod rhagor am Fairway to Haven Y Trallwng, neu am gyfleoedd gwirfoddoli, e-bostiwch tammy@montwt.co.uk neu ewch i: montwt.co.uk/fairway2haven