Draenog Ewropeaidd

Hedgehog (©Tom Marshall)

©Tom Marshall

Draenog Ewropeaidd

Enw gwyddonol: Erinaceus europaeus
Yn cael ei ystyried fel ffrind gorau i arddwyr, bydd y draenog yn fwy na pharod i fwyta’r gwlithod sy’n crwydro drwy welyau llysiau. Wedi’i orchuddio gan bigau i gyd, mae’r draenog yn hoffi bwyta pob math o bryfed, ond yn enwedig gwlithod a chwilod crensiog. Mae ar ei brysuraf yn ystod y nos ac mae’n gaeafgysgu drwy gydol y gaeaf.

Species information

Ystadegau

Hyd: 15-30 cm
Cynffon: 1-2 cm
Pwysau: hyd at 2 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 2-3 blynedd

Statws cadwraethol

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Ebrill - Hydref

Ynghylch

Yn grwn a brown ac wedi’i orchuddio gan bigau, y draenog yw un o anifeiliaid gwyllt mwyaf cyfarwydd y DU. Mae i’w weld mewn parciau a gerddi lle mae llwyni’n guddfan berffaith iddo yn ystod y dydd! Mae wrth ei fodd mewn glaswellt tal llawn pryfed i wledda arnyn nhw ar ôl i’r haul fachlud. Mae draenogod yn gaeafgysgu drwy gydol y gaeaf o tua mis Tachwedd tan fis Ebrill, gan ddewis nythu mewn pentyrrau o ddail neu foncyffion fel rheol.

Sut i'w hadnabod

Mae’r draenog yn anifail unigryw a hawdd iawn ei adnabod, yn fach, brown a chrwn gyda phigau blaen melyn dros ei gefn i gyd, a wyneb wedi’i orchuddio gan ffwr. Anifail nosol yw hwn yn bennaf ac fe allwch chi ei weld neu ei glywed yn snwffian hyd yr ardd. Neu cadwch lygad am arwyddion o ddraenogod, fel tail du maint canolig yn llawn pryfed ar y lawnt.

Dosbarthiad

Eang, i’w weld ledled y wlad mewn cynefinoedd amrywiol, ond yn absennol o ynysoedd yr Alban. Mae cyfran fawr o’r draenogod ar Ynys Alderney yn rhai melyn!

Roeddech chi yn gwybod?

Mae draenogod yn enwog am eu gallu i rolio eu hunain yn beli o bigau pan maen nhw dan fygythiad. Blew wedi addasu yw’r pigau yma mewn gwirionedd ac mae gan bob draenog tua 7,000 ohonyn nhw ac mae’n gallu eu codi gan ddefnyddio’r cyhyrau pwerus ar hyd ei gefn.

Gwyliwch

Hedgehog by Stuart Edmunds