Britheg Berlog

Pearl-bordered Fritillary underwing

Pearl-bordered Fritillary ©Tamasine Stretton

Pearl-bordered Fritillary butterfly

©Philip Precey

Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren a du deniadol ac i'w gweld ar lwybrau coetiroedd a llennyrch. Mae wedi ei enwi ar ôl y rhes o 'berlau' ar waelod yr adenydd.

Species information

Ystadegau

Lled adenydd: 3.8-4.7cm

Statws cadwraethol

Wedi eu gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth â blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Ebrill i Awst

Ynghylch

Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren a du trawiadol, yn aml i'w gweld yn hedfan yn agos i'r llawr ar hyd llwybrau coetiroedd neu yn bwydo ar flodau'r gwanwyn fel y Fioled gyffredin. Maent hefyd yn cael eu gweld mewn cynefinoedd â chyfuniad o wair, rhedyn a phrysgoed. Hwn yw'r brith cyntaf i ymddangos ym mis Ebrill a gallant hyd yn oed ymddangos am yr eildro os yw'r tywydd yn dda. Mae'r fenyw yn dodwy un wy mewn rhedyn neu ddail yn agos i fioledau, sef bwyd y lindys.

Sut i'w hadnabod

Mae'r Britheg Berlog yn löyn byw oren gyda marciau du ar ei adenydd. Mae marciau du ac arian ar waelod ei adenydd, ynghyd â rhes o 'berlau' ar hyd ymyl yr adenydd. Mae'n debyg iawn i'r Britheg Berlog Fach o ran maint ac edrychiad. Maent fwyaf hawdd eu hadnabod o waelod eu hadenydd - mae gan bob un rhes o saith perl, ond mae'r Britheg Berlog yn arddangos dau berl ychwanegol amlwg, tra bod gan y Britheg Berlog Fach mosaig o farciau gwyn, oren a brown.

In our area

Sir Drefaldwyn yw cartref y boblogaeth fwyaf o'r glöyn byw prin hwn yng Nghymru gyfan. Ers dros 20 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn wedi bod yn gweithio i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon. Am ragor o wybodaeth ac i wylio ein ffilm sydd wedi ei hadrodd gan Iolo Williams, cliciwch yma.

Dosbarthiad

Maent i'w gweld yn ne Lloegr, Cymru a'r Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae lindys yn lapio mewn deilen dros y gaeaf wrth waelod planhigion fwyd; pan maent yn dod allan, maent hanner y maint roeddent yr haf cynt.

Sut y gall bobl helpu

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli nifer o warchodfeydd natur coetir yn ymatebol er budd pob mathau o loÿnnod byw, gan gynnwys y Britheg Berlog. Mae cyfuniad o brysgoedio, torri llwyni, cynnal a chadw llwybrau a pheidio ag ymyrryd i gyd yn helpu bywyd gwyllt coetiroedd i ffynnu. Gallwch chi helpu hefyd: gwirfoddolwch gyda'ch Ymddiriedolaeth Natur leol a gallwch fod yn ymwneud â phopeth, o grefftau coedwig traddodiadol i chwilio am loÿnnod byw.