Fioled Gyffredin

Common Dog-violet

©Philip Precey

Fioled Gyffredin

Enw gwyddonol: Viola riviniana
Mae modd gweld ein fioled fwyaf cyfarwydd, y Fioled Gyffredin, mewn ystod o gynefinoedd o goetir i laswelltir, o wrychoedd i ddolydd. Mae'r blodau porffor, sy'n debyg i flodau trilliw, i'w gweld rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Species information

Ystadegau

Uchder: hyd at 12cm

Statws cadwraethol

Cyffredin.

Pryd i'w gweld

Ebrill i Fehefin.

Ynghylch

Os ydych yn gweld fioled yn y gwyllt, mae'n fwyaf tebygol mai'r Fioled Gyffredin yw hi. Mae'r planhigyn eang yn bwy'n fodlon mewn sawl cynefin gwahanol, gan gynnwys coetir, glaswelltir, rhostir, gwrychoedd a hen ddolydd. Mae'n blodeuo o fis Ebrill i Fehefin, ond nid oes arogl i'w blodau, yn wahanol i'w chefnder, y Fioled Bêr, a oedd yn cael ei defnyddio fel persawr yn yr hen Roeg!

Sut i'w hadnabod

Mae blodau porffor y Fioled Gyffredin yn edrych fel blodau'r trilliw. Mae'r dail mewn siâp calon, ac yn wahanol i rai mathau eraill o fioled, nid oes arogl iddynt.

Dosbarthiad

Eang.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r planhigyn hwn yn bwysig i nifer o loÿnnod byw brith, gan gynnwys y Britheg Berlog Fach, Britheg Berlog a'r Britheg Arian, oherwydd eu bod yn dodwy wyau arno.

Sut y gall bobl helpu

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli nifer o warchodfeydd natur gwlypdir er budd y bywyd gwyllt maent yn ei gefnogi. Gallwch helpu drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth leol a dod yn aelod; byddwch yn cael gwybod am newyddion cyffrous ym myd natur, digwyddiadau ar eich stepen ddrws a chyfleoedd gwirfoddoli, a byddwch yn helpu eich bywyd gwyllt lleol ar yr un pryd.