Gwyfyn blaen brigyn

Buff-tip Moth

©Tom Marshall

Buff-tip Moth Caterpillars

©Chris Lawrence

Gwyfyn blaen brigyn

Enw gwyddonol: Phalera bucephala
Mae mor hawdd methu’r gwyfyn bach clyfar yma. Mae’n feistr ar guddio’i hun, gan gyfuno’n berffaith gyda choed gan ei fod yn edrych yn union fel brigyn bedwen! Yn hedfan yn ystod y nos yn unig, mae’r gwyfyn blaen brigyn i’w weld rhwng misoedd Mai a Gorffennaf.

Species information

Ystadegau

Lled yr adenydd: 4.4-6.8cm

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mai - Gorffennaf

Ynghylch

Mae’n hawdd iawn methu’r gwyfyn blaen brigyn, gan ei fod yn cyfuno’n berffaith gyda’i amgylchedd, yn edrych yn union fel brigyn bedwen. Yn wyfyn sy’n hedfan yn ystod y nos, mae’r creadur rhyfeddol yma i’w weld rhwng misoedd Mai a Gorffennaf. Mae’r lindys yn fawr, blewog a melyn gyda phen du a chylch o streipiau duon byr. Maen nhw’n dod at ei gilydd mewn niferoedd mawr yn aml.

Sut i'w hadnabod

Mae’r blaen brigyn yn dal ei adenydd yn erbyn ei gorff ac yn edrych yn hynod debyg i frigyn bedwen, sy’n rhoi iddo’i enw cyffredin. Llwyd neu arian yw ei liw yn bennaf, gyda phen sgŵar llwyd a darn llwyd ar ben yr adenydd.

Dosbarthiad

Eang

Roeddech chi yn gwybod?

Pan mae’n eistedd yn gwbl lonydd, mae lliw, siâp a blaen adenydd llwyd y gwyfyn blaen brigyn yn ei wneud yn guddliw perffaith: mae’n edrych fel brigyn bedwen wedi torri.

Sut y gall bobl helpu

To attract butterflies and moths into your garden, plant nectar-rich borders for them to feed along and climbing ivy and shrubs for overwintering insects. To find out more about encouraging wildlife into your garden, visit our Wild About Gardens website: a joint initiative with the RHS, there's plenty of facts and tips to get you started. To buy bird and animal food, feeders and homes, visit the Vine House Farm website - an award-winning wildlife-friendly farm which gives 5% of all its takings to The Wildlife Trusts.